Y Brenin Charles III yn cael ei goroni yn Abaty Westminster

  • Cyhoeddwyd
coroni Charles

Mae'r Brenin Charles III wedi cael ei goroni'n swyddogol mewn seremoni yn Abaty Westminster.

Ymhlith tua 2,200 o bobl yn yr abaty ar gyfer y seremoni roedd gwleidyddion, arweinwyr crefyddol a chynrychiolwyr o wledydd ar draws y byd.

Roedd miloedd o bobl hefyd wedi dod allan i wylio gorymdaith y brenin a'r frenhines o Balas Buckingham, er gwaethaf y glaw yn Llundain.

Cyn y seremoni, cafodd aelodau blaenllaw grŵp sy'n ymgyrchu yn erbyn y frenhiniaeth eu harestio ger Sgwâr Trafalgar.

Disgrifiad,

Y foment pan gafodd Y Brenin Charles III ei goroni

Elfennau Cymreig

Roedd y canwr byd-enwog Bryn Terfel ymhlith y rheiny fu'n perfformio yn ystod y gwasanaeth, gan ganu yn y Gymraeg am y tro cyntaf mewn seremoni coroni.

Fe wnaeth y delynores o Bowys, Alis Huws, hefyd chwarae fel rhan o berfformiad o gyfansoddiad gan Karl Jenkins o Abertawe.

Roedd y Tywysog Harry ymhlith aelodau eraill y teulu brenhinol oedd yn yr abaty ar gyfer y seremoni, ar ôl iddo hedfan draw o'r UDA.

Hefyd yno roedd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford - ond roedd Llywydd y Senedd, Elin Jones, eisoes wedi dweud na fyddai hi'n mynychu.

Disgrifiad,

Bryn Terfel yn canu yn y Gymraeg yn seremoni'r Coroni

Wrth dyngu ei Lw Coroni yn ystod y gwasanaeth, dywedodd y Brenin Charles y byddai'n "magu awyrgylch ble gall pobl o bob ffydd fyw yn rhydd".

Cafodd y goron ei gosod ar ei ben i'w nodi'n swyddogol fel brenin toc wedi 12:00.

Fe wnaeth clychau'r abaty ganu am ddau funud, yn ogystal â thrwmpedau, ac fe gafwyd cyfarchion gwn eu tanio ledled y Deyrnas Unedig, gan gynnwys yng Nghaerdydd.

Yn dilyn y seremoni fe wnaeth Y Brenin Charles a'r Frenhines Camilla orymdeithio yn ôl tuag at y Palas, cyn ymddangos ar y balconi.

Fe wnaeth bron i 4,000 o aelodau lluoedd arfog y Deyrnas Unedig gymryd rhan mewn digwyddiadau yn ymwneud â'r coroni yn ystod y dydd.

Roedd ceffyl a fagwyd yng nghysgod Foel Cwm Cerwyn, Sir Benfro hefyd yn arwain yr orymdaith.

Mae Ed - neu Uwch-gapten Apollo i ddefnyddio ei enw newydd - yn geffyl drwm gyda'r Cafalri Brenhinol. Cafodd ei ddewis i fod yn rhan o orymdaith angladdol y Frenhines nôl ym mis Medi, ac fe fydd nawr yn arwain gorymdaith o geffylau'r Cafalri Brenhinol.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford ymhlith y rheiny oedd wedi cael gwahoddiad i'r gwasanaeth

Yn dilyn y seremoni dywedodd Ysgrifennydd Cymru, David TC Davies ei fod hi'n "anhygoel" i fod yno.

"Beth wnaeth fy nharo i oedd cymaint o bwyslais oedd yn y gwasanaeth ar y Brenin yn ymroi ei hun i'r wlad, nid pobl yn talu teyrnged iddo," meddai.

"Fe wnaeth ei fam dreulio ei bywyd cyfan mewn gwasanaeth cyhoeddus, ac heddiw roedd y Brenin yn gwneud yr un ymrwymiad."

Ychwanegodd fod clywed Syr Bryn Terfel yn canu yn y Gymraeg wedi "dod â deigryn i'r llygaid".

"Dydy geiriau methu gwneud cyfiawnhad gyda'r ffordd y gwnaeth e ganu," meddai.

"Roedd 'na un emyn hefyd wedi ei chanu mewn Cymraeg, Gwyddeleg, Gaeleg yr Alban a Saesneg, ac roedd y delynores Alis Huws yna. Felly mae wedi bod yn ddiwrnod da i Gymru."

Ar draws y wlad cafodd digwyddiadau eu trefnu i ddathlu neu nodi'r Coroni, gyda bron i 4,000 yn cael eu rhestru ar wefan swyddogol y digwyddiad - gan gynnwys tua 90 yng Nghymru.

Disgrifiad o’r llun,

Roedd rhai yn gwylio'r seremoni ar sgriniau yng Nghastell Caerdydd

Ond cyn y seremoni fe arestiwyd pennaeth y grŵp ymgyrchu gwrth-frenhinol, Republic, yn ystod protest yn Sgwâr Trafalgar yn Llundain.

Fe arestiwyd protestwyr mewn crysau-t "Not My King" gan gynnwys Prif Swyddog Gweithredol y mudiad, Graham Smith.

Cafodd chwech o wrthdystwyr, gan gynnwys Mr Smith, eu harestio gan yr heddlu wrth ddadlwytho placardiau ger llwybr gorymdaith y Coroni, meddai'r grŵp.

Ar wefannau cymdeithasol fe bostiodd Republic luniau o swyddogion yn cymryd eu manylion.

Gwelwyd protestiadau hefyd yng Nghaerdydd a Chaernarfon yn erbyn y frenhiniaeth a seremoni'r Coroni.

Disgrifiad o’r llun,

Protestiwr yng Nghaerdydd yn mynegi ei hanhapusrwydd gyda chost cynnal y Coroni yn ystod cyfnod economaidd anodd

Roedd tua 400 o bobl yn bresennol yn y rali yn y brifddinas, gyda llawer yn tynnu sylw at gost yr achlysur yn ogystal â'u gwrthwynebiad at y syniad o freniniaeth.

Pynciau cysylltiedig