'Pwysig bod ni'n cael barn' ar y coroni medd protestwyr

Mae digwyddiadau wedi bod yn cael eu cynnal ar draws Cymru ddydd Sadwrn i nodi seremoni Coroni'r Brenin Charles III.

Roedd hynny'n cynnwys digwyddiad yng Nghastell Caerdydd, ble cafwyd saliwt gynnau i nodi achlysur y coroni'n swyddogol.

Ond cafwyd protestiadau hefyd mewn llefydd fel Caerdydd a Chaernarfon, gan y rheiny sy'n gwrthwynebu'r frenhiniaeth a chost yr achlysur.

Fe wnaeth dros 400 o bobl ymgynnull ar gyfer y brotest yn y brifddinas, gyda'r dorf yn gweiddi sloganau fel 'Not my King'.