Dathlu a phrotestio yng Nghymru ar ddiwrnod y Coroni
- Cyhoeddwyd
Mae digwyddiadau wedi bod yn cael eu cynnal ar draws Cymru ddydd Sadwrn i nodi seremoni Coroni'r Brenin Charles III.
Roedd hynny'n cynnwys digwyddiad yng Nghastell Caerdydd, ble cafwyd saliwt gynnau i nodi achlysur y coroni'n swyddogol.
Ond cafwyd protestiadau hefyd mewn llefydd fel Caerdydd a Chaernarfon, gan y rheiny sy'n gwrthwynebu'r frenhiniaeth a chost yr achlysur.
Fe wnaeth dros 400 o bobl ymgynnull ar gyfer y brotest yn y brifddinas, gyda'r dorf yn gweiddi sloganau fel 'Not my King'.
'Gwarthus'
Roedd Bethan Sayed, cyn-Aelod Senedd Plaid Cymru yn un o'r rheiny fu'n trefnu'r brotest yng Nghaerdydd.
"Rydyn ni yma ar ddiwrnod y coroni i godi ymwybyddiaeth ein bod ni'n ymgyrch newydd am weriniaeth i Gymru," meddai.
"Rydyn ni eisiau siarad gyda phobl ynglŷn â pham fyddai gweriniaeth yn beth da. Mae cost y coroni wedi bod yn enfawr, yn enwedig yn ystod argyfwng costau byw.
"Mae'n bwysig i genedlaethau ieuengach ddeall beth yw democratiaeth. Mae heddiw yn rhan o'r addysg honno.
"Pryd arall fydden ni'n ei wneud e? Y rheswm ni yma heddiw yw achos y coroni. Achos bod gyda ni ryddid barn.
"Fi'n meddwl bod e'n warthus beth sydd wedi bod yn digwydd yn Llundain."
Ychwanegodd Nick Wall, un o drefnwyr y digwyddiad yng Nghaerdydd, ei bod hi'n "warth" fod rhai'n credu na ddylen nhw brotestio ar ddiwrnod y coroni rhag ofn eu bod nhw'n "pechu'r brenin".
"Mae'r bobl sydd yma heddiw yn cynrychioli tua 25% o'r boblogaeth sydd eisiau pennaeth etholedig i'r wladwriaeth," meddai.
"Y mwyaf o bobl sy'n clywed amdanom ni, pa mor annemocrataidd yw'r frenhiniaeth, y mwya' fydd yn ymuno."
I eraill oedd yng nghanol y ddinas, fel Millie Gee a Sam Harrendence, doedd seremoni'r coroni ddim yn eu cyffroi nhw naill ffordd neu'r llall.
"Dwi erioed wedi teimlo'n frwdfrydig am y Teulu Brenhinol," meddai Millie.
"Dwi ddim yn 'nabod fawr o neb sy'n genedlaetholwyr mawr."
Ychwanegodd Sam: "Dwi ddim yn gweld pwynt y peth. Mae'n beth mor hen ffasiwn.
"Mae e jyst yn teimlo mor out of touch."
Roedd Ann Jones o Sefydliad y Merched yng Nghymru yn un o'r rheiny oedd wedi teithio i Lundain ar gyfer yr achlysur fodd bynnag, a hithau eisiau bod yn dyst i'r diwrnod hanesyddol.
"Unwaith yn eich bywyd mae rhywbeth fel hyn yn digwydd," meddai. "Dwi mor falch mod i wedi gallu bod yma.
"Dwi wedi bod yn hoff o'r Teulu Brenhinol erioed, wedi cwrdd â sawl un ohonyn nhw dros y blynydde, ac o'n i'n meddwl bydde fe'n bechod os oedden i ddim yma i weld y digwyddiad hyn.
"Mae e'n un o'r pethau mwyaf trawiadol mae Prydain Fawr yn ei wneud."
Partïon cymunedol
Cafodd digwyddiadau eu trefnu ar draws Prydain i ddathlu neu nodi'r Coroni, gyda bron i 4,000 yn cael eu rhestru ar wefan swyddogol y digwyddiad.
Roedd hynny'n cynnwys tua 90 yng Nghymru, gan gynnwys digwyddiad Cinio Mawr yn Y Bermo, Gwynedd, gyda gwirfoddolwyr yn codi arian yn ogystal â rhoi cyfle i bobl wylio'r coroni.
"'Dan ni jyst isio enjoio fo, a dod â'r plant a phobl allan," meddai Ann Smith, un o'r trefnwyr.
"Dwi'n meddwl bod o'n bwysig [dathlu'r coroni], i fi eniwe. Dwi ddim isio president."
Uno'r rheiny fu'n gwylio oedd Victoria Samuels, a ddywedodd ei fod yn "wych cael ei wylio gydag eraill ar y sgrin fawr".
"Mae'r dyddiau mawr brenhinol yn adegau mawr mae pawb yn tynnu at ei gilydd i'w gwylio," meddai.
Roedd John Whitehouse yn cofio gweld gorymdaith coroni Elizabeth II pan yn blentyn, ac hefyd yn gwylio seremoni heddiw gyda'i wraig Marilyn.
"'Dan ni jyst wrth ein boddau'n gweld rhywbeth fel hyn," meddai. "Mae wedi bod yn ddiddorol, ac maen nhw wedi newid tipyn o bethau [yn y seremoni] hefyd."
Yng Nghaernarfon cafwyd protest fechan yn erbyn y frenhiniaeth, a hynny y tu allan i'r castell lle cafodd Charles III ei arwisgo'n Dywysog Cymru.
Un o'r rheiny oedd yno oedd Ann Williams.
"Dwi'n teimlo mai pomp ydi be sy'n mynd ymlaen yn Llundain heddiw 'ma, mae o'n sarhaus ac yn wastraff llwyr o arian fysa'n gallu mynd at rhywbeth llawer gwell yn fy marn i," meddai.
"Ella 'na criw bychain ohonom sydd yma heddiw ond mae'r gefnogaeth gan bobl yn pasio heibio yn y ceir, neu siarad hefo, ac mae llawer iawn yn teimlo'n union yr un fath."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Mai 2023
- Cyhoeddwyd5 Mai 2023
- Cyhoeddwyd6 Mai 2023