Dau wy i bartneriaeth newydd Gweilch Glaslyn
Mae gwalch a gollodd ei bartner hirdymor yn mynd i fod yn dad unwaith eto ar ôl canfod partner newydd yng Ngwynedd.
Fe wnaeth Aran ddychwelyd i warchodfa Gweilch Glaslyn ger Porthmadog fis Ebrill.
Ond am y tro cyntaf mewn 20 mlynedd ni ddychwelodd ei bartner, Mrs G, gyda gwirfoddolwyr Bywyd Gwyllt Glaslyn yn cydnabod eu bod yn annhebygol o'i gweld fyth eto.
Mae Aran bellach wedi canfod partner newydd sydd wedi'i henwi'n Elen, ac maen nhw'n gofalu am ddau wy yn eu nyth.