Un o weilch Glaslyn yn annhebygol o ddychwelyd
- Cyhoeddwyd
Mae gwalch benywaidd sydd wedi bod yn dod i ogledd Cymru i fridio am bron i 20 mlynedd yn annhebygol o ddychwelyd i Borthmadog, yn ôl Gweilch Glaslyn.
Roedd disgwyl i'r walches, o'r enw Mrs G, ddychwelyd i Wynedd rhyw dair wythnos yn ôl, am yr hyn fyddai ei 20fed tro.
Fe wnaeth ei phartner, Aran, gyrraedd ar 3 Ebrill, ond doedd Mrs G ddim yno i'w groesawu ac mae wedi treulio llawer o'i amser ar ei ben ei hun yn y nyth.
"Roedden ni wastad yn gwybod y byddai'r diwrnod yma'n dod ac mae'n gwirfoddolwyr a'n cefnogwyr ni'n drist ei bod hi heb ddod yn ôl," meddai rheolwr canolfan ymwelwyr Gweilch Glaslyn, Heather Corfield.
Mae Mrs G yn 23 oed ac yn un o weilch bridio mwyaf llwyddiannus y DU, ac mae hi wedi magu cywion ym Mhorthmadog ers 2004.
Ers hynny mae 44 o gywion yn llwyddiannus o'r nyth dan ei gofal, gyda nifer o'r rheiny wedi mynd ymlaen i fridio eu hunain mewn rhannau eraill o Brydain.
"Mi fu hi'n aderyn hynod ac mi wnaeth hi gyfraniad aruthrol i'r rhaglen bridio gweilch y pysgod ym Mhrydain," meddai Ms Corfield.
"Mae miloedd o bobl gartref a thramor wedi dilyn ei hanes yn frwd ers bron i ddau ddegawd.
"Fe gaiff hi ei chofio a'i dathlu am byth gan Gweilch Glaslyn."
Er nad yw'n amlwg ble y bu Mrs G yn treulio'i gaeafau, mae'r mwyafrif o weilch Prydain yn mudo i orllewin Affrica, rhyw 3,000 o filltiroedd i ffwrdd.
Gobaith Gweilch Glaslyn ydy y bydd Aran yn llwyddo i "ddenu cymar newydd ac y bydd cywion i'w gweld eto ar y nyth yr haf yma".
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Mai 2022
- Cyhoeddwyd29 Mai 2022
- Cyhoeddwyd14 Ionawr 2022