TAW a dweud: Sut mae bisgedi'n esbonio'r dreth yma?

Os ydych chi'n hoffi siocled yn eich bisged, neu ar eich bisged, fe all y gwahaniaeth gostio.

Pam hynny? Yr ateb ydy Treth ar Werth (TAW), sef treth 'dyn ni'n ei dalu ar lwyth o'r pethau 'dyn ni'n eu prynu.

Eleni, mae'n 50 mlynedd ers cyflwyno Treth Ar Werth ym Mhrydain, a bellach mae'n ffynhonnell sylweddol o incwm i'r Trysorlys.

Mae'n dreth sy'n cael ei osod ar lwyth o nwyddau bob dydd, a rhai bwydydd.

Ond mae'n gallu bod yn ddryslyd, fel mae Tomos Lewis yn esbonio.