TAW piau hi - pam bod rhai bisgedi'n ddrytach nag eraill?
- Cyhoeddwyd
Os ydych chi'n hoffi siocled yn eich bisged, neu ar eich bisged, fe all y gwahaniaeth gostio.
Pam hynny? Yr ateb ydy Treth ar Werth (TAW), sef treth 'dyn ni'n ei dalu ar lwyth o'r pethau 'dyn ni'n eu prynu.
Yng Nghymru, mae mwy o dreth yn cael ei gasglu drwy TAW na threth incwm, ond mae yna alw gan rai i ddiwygio'r ffordd mae'n gweithio.
Eleni, mae'n 50 mlynedd ers cyflwyno treth ar werth ym Mhrydain, a bellach mae'n ffynhonnell sylweddol o incwm i'r Trysorlys.
Bob blwyddyn mae'n codi rhyw £143bn i Lywodraeth y DU - yr ail ffynhonnell fwyaf o arian y Trysorlys tu ôl i dreth incwm.
Mae'n dreth sy'n cael ei osod ar lwyth o nwyddau bob dydd, a rhai bwydydd.
TAW neu ddim TAW?
Dyw hi ddim wastad yn hawdd gwybod pa fwydydd sy'n cael eu trethu.
Mae gwahaniaethau bychan mewn bwydydd yn gallu gwneud y gwahaniaeth rhwng treth o 20%, a dim treth.
Dyw bisgedi, fel rheol, ddim yn cael eu trethu - oni bai eu bod nhw wedi eu gorchuddio â siocled. Os felly, 'dych chi'n talu 20% yn rhagor.
Ond os yw'r siocled yn y fisged - fel cookie - does dim treth ar werth.
Gyda dynion bach sinsir (gingerbread men), os oes siocled arnynt, mae'n rhaid talu TAW, oni bai mai dim ond dwy lygad fach siocled sydd arnyn nhw.
Os felly, does dim rhaid talu'r 20%. A dim siocled - dim TAW.
Fe gafodd Nia Tudor, sy'n fam i ddau o blant a sydd â chyfrif instagram Bwydo Rhai Bach, "bach o sioc" wrth sylwi bod treth o 20% yn cael ei osod ar rai o'r bwydydd mae'n eu prynu bob wythnos.
"Ers bod i'r siop a sylweddoli arno fe, fi'n gweld y gwahaniaeth wedyn mewn bisgedi, er enghraifft," meddai.
"Ma' costau byw fel mae hi wedi cynyddu ac mae lot o deuluoedd yn cael hi'n anodd.
"Mae'r ffaith bod [teuluoedd] yn gorfod talu Treth Ar Werth ar fwydydd maen nhw'n mynd i brynu... mae'n drist.
"Mae e yn gwneud i mi feddwl wedyn, mae'n gwneud i mi ystyried popeth os fi'n meddwl am geisio lleihau costau siopa bwyd."
Yn 2020-21, cyn ad-daliadau, fe dalodd pobl yng Nghymru ychydig dros £6 biliwn mewn Treth Ar Werth, o'i gymharu â bron i £5.4 biliwn mewn treth incwm.
"I'r rhan fwyaf o aelwydydd, i'r rhan fwyaf o bobl, mae'n golygu mae'r dreth fwyaf y maen nhw'n ei dalu yw'r Dreth Ar Werth," yn ôl Guto Ifan, darlithydd yng Nghanolfan Llywodraethiant Cymru, Prifysgol Caerdydd.
"Mae'r Dreth Ar Werth yn codi mwy o arian fel canran o incwm aelwydydd tlotaf o ran incwm ar draws y Deyrnas Gyfunol.
"Falle bod 'na ffyrdd eraill o wneud polisi mwy blaengar. Mae yna drethi eraill fedrwch chi edrych arnyn nhw, ac wrth gwrs mae'r system budd-daliadau yn rhan annatod o sut mae incwm yn cael ei ail-ddosbarthu."
Mae Aelod Seneddol Llafur Cwm Cynon yn credu ei fod yn bryd gweld y gyfundrefn dreth gyfan yn newid.
Teimlad Beth Winter AS yw bod TAW yn benodol annheg.
"'Dyn ni'n byw mewn gwlad anghyfartal, ac mae'r dreth anuniongyrchol yma'n amlwg yn effeithio'r mwyaf tlawd yn ein cymdeithas ni'n fwy na'r cyfoethog," meddai.
"Mae angen ei newid."
'Amser i ailedrych ar y system'
I Dr Edward Thomas Jones, economegydd ym Mhrifysgol Bangor, mae'r modd y mae TAW yn effeithio'r mwyaf tlawd mewn cymdeithas yn golygu ei bod hi'n bryd diwygio'r drefn.
"Yn sicr mae'n amser i ni ailedrych ar y system yma, oherwydd tydi hi ddim yn deg bod y rheiny sydd ar gyflogau is yn talu cyn gymaint o dreth," meddai.
"Mae 'na lawer o nwyddau ma pobl eu hangen, dim ots beth yw'r costau, ac i gael treth ar y math yna o nwyddau, tydi o ddim yn deg ar gymdeithas.
"Ond mae'n rhaid i ni edrych ar yr holl system dreth i wneud yn siŵr ei fod o'n rhywbeth teg."
Dywedodd llefarydd ar ran y Trysorlys: "Rydym yn cydnabod na ddylai aelwydydd orfod talu'r holl gostau TAW sy'n dod iddynt, ac rydym yn gostwng TAW yn hael ar eitemau fel bwyd, trafnidiaeth gyhoeddus a rhentu eiddo.
"Mae'r gostyngiadau TAW hyn ymhlith yr uchaf yng [ngwledydd] yr OECD ac yn golygu nad yw 45% o weithgarwch economaidd yn destun TAW."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Hydref 2020
- Cyhoeddwyd20 Mai 2019
- Cyhoeddwyd19 Mai 2022