Cludiant yn 'her' i rieni sydd eisiau addysg Gymraeg

Mae llefarydd ar ran mudiad Rhieni dros Addysg Gymraeg wedi dweud bod "angen gwirioneddol" i adolygu trefniadau teithio ar gyfer cludo plant i'r ysgol.

Wrth siarad ar raglen Dros Frecwast BBC Radio Cymru dywedodd Elin Maher, Cyfarwyddwr Cenedlaethol Gweithredol RhAG, fod hynny'n un o'r rhwystrau sy'n ei gwneud hi'n anoddach i rai rhieni ddewis addysg Gymraeg i'w plant.

"Rydyn ni'n cael cymaint o negeseuon am heriau mae rhieni'n eu profi yn y gymuned gyda chludiant ac anghydraddoldeb y ddarpariaeth o gludiant," meddai.

Roedd yn ymateb yn dilyn adroddiad pwyllgor Senedd sydd wedi dweud bod "perygl difrifol" na fydd Llywodraeth Cymru yn cyrraedd ei tharged i greu miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 oherwydd prinder athrawon.