Cymraeg 2050 'mewn perygl difrifol' heb fwy o athrawon

  • Cyhoeddwyd
dosbarthFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Llywodraeth Cymru yn "cydnabod yr her o gynyddu nifer yr athrawon cyfrwng Cymraeg"

Mae "perygl difrifol" na fydd Llywodraeth Cymru yn cyrraedd ei tharged i greu miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 oherwydd prinder athrawon.

Dyna rybudd adroddiad gan un o bwyllgorau trawsbleidiol Senedd Cymru.

Dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod yn "cydnabod yr her o gynyddu nifer yr athrawon cyfrwng Cymraeg".

Cyhoeddwyd y nod o sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol yn Y Fenni yn 2016.

Ond yn ôl Cyfrifiad 2021, mae nifer y siaradwyr Cymraeg wedi gostwng ers 2011 - i lawr o 562,000 i 539,000.

'Mwy o Gymraeg mewn ysgolion Saesneg'

Mae Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth diweddar gan Lywodraeth Cymru yn awgrymu bod eisoes bron i 900,000 yn gallu siarad Cymraeg, ond dywedodd arbenigwr ar ystadegau bod yr arolwg hwnnw yn "ddiwerth".

Rhybuddiodd Delyth Jewell AS, cadeirydd y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol: "Mae'r Gymraeg yn iaith sy'n perthyn i bob un ohonom yng Nghymru a dylai fod yn destun pryder mawr i ni nad yw nifer y siaradwyr yn cynyddu.

"Mae'r pwyllgor hwn yn cefnogi'r targed o greu miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, ond mae'r uchelgais hwnnw mewn perygl difrifol os bydd pethau'n parhau fel y maent."

Disgrifiad,

Elin Maher: Anghydraddoldeb cludiant yn "her" arall i addysg Gymraeg

Daeth y pwyllgor i'r casgliad nad oes digon o staff i sicrhau'r twf angenrheidiol mewn ysgolion Cymraeg ac nad oes digon o addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg mewn ysgolion Saesneg.

Mae'r pwyllgor yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru "fuddsoddi'n sylweddol" i sicrhau bod rhagor o athrawon, cymorthyddion a darlithwyr yn cofrestru ar y Cynllun Sabothol i wella'u Cymraeg.

Mae'r Cynllun Sabothol yn annog athrawon presennol i ddysgu neu loywi eu Cymraeg, ac mae Iaith Athrawon Yfory yn rhoi grantiau i athrawon newydd i'w hannog i weithio ym maes addysg Gymraeg.

Amcangyfrif mudiad Dyfodol i'r Iaith yw bod angen i 17,000 o athrawon gofrestru ar y Cynllun Sabothol os yw Llywodraeth Cymru am gyrraedd ei tharged.

Mae'r pwyllgor hefyd yn awgrymu y gellid ehangu'r cynllun i gynnwys ymarferwyr blynyddoedd cynnar sy'n gweithio gyda phlant iau mewn meithrinfeydd.

Ychwanegodd Delyth Jewell: "Dylem hefyd gydnabod bod map ieithyddol Cymru yn eithaf amrywiol ac efallai na fydd un dull penodol yn gweithio bob amser."

Galwodd ar Lywodraeth Cymru i "ystyried system hyfforddi ac achredu ar gyfer athrawon cyfrwng Cymraeg fel bod pob plentyn yn cael y cyfle gorau i ddysgu ein hiaith".

"Mae Cymru wedi cyrraedd trobwynt a nawr yw'r amser i gyflwyno newidiadau. Rydym yn annog Llywodraeth Cymru i dderbyn ein hargymhellion a'u rhoi ar waith cyn ei bod hi'n rhy hwyr," meddai.

Ffynhonnell y llun, Llywodraeth Cymru/Dafydd Elfryn
Disgrifiad o’r llun,

Mapiau'n dangos newid yng nghanran y siaradwyr Cymraeg rhwng Cyfrifiad 2011 a 2021 (glas = dirywiad, melyn = cynnydd), ac ardaloedd yng Nghymru ble mae dros 50% dal yn siarad yr iaith

Wrth ymateb i'r adroddiad, dywedodd Cymdeithas yr Iaith ei fod yn dangos yr angen i symud tuag at gael pob ysgol yng Nghymru'n un cyfrwng Cymraeg erbyn 2050.

"Mae'n glir bod angen Deddf Addysg Gymraeg fydd yn sicrhau addysg cyfrwng Cymraeg i bob plentyn," meddai Mabli Siriol Jones, cadeirydd Grŵp Addysg Cymdeithas yr Iaith.

Ychwanegodd eu bod hefyd am weld "targedau statudol i bob awdurdod lleol i gynyddu nifer y disgyblion sy'n derbyn addysg Gymraeg".

"Rydyn ni'n cytuno hefyd bod angen cynyddu nifer y staff addysg sy'n gallu siarad Cymraeg," meddai.

"Mae argymhellion cryf fel cynllun trochi ar gyfer athrawon, ond mae angen i'r Gymraeg fod yn rhan o hyfforddiant cychwynnol athrawon, a thargedau statudol yn y Bil i gynyddu'r gyfran o'r gweithlu sy'n gallu dysgu trwy gyfrwng y Gymraeg."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym eisoes wedi cyhoeddi Cynllun y Gweithlu Cymraeg mewn Addysg sy'n nodi nifer o gamau uchelgeisiol y byddwn yn cymryd gyda'n partneriaid er mwyn datblygu'r gweithlu dros y 10 mlynedd nesaf.

"Byddwn yn ymateb i adroddiad y pwyllgor maes o law."