Iechyd meddwl: Helpu eraill i wella drwy gerddoriaeth

A hithau'n Wythnos Iechyd Meddwl, mae cwpl o Ynys Môn sydd wedi gwella o ddibyniaeth ar alcohol a chyffuriau wedi dechrau cynllun newydd i helpu eraill drwy gelfyddyd.

Mae Gareth Hughes ac Ellen Davies wedi trefnu nifer o ddigwyddiadau cymdeithasu drwy gerddoriaeth dros y misoedd nesaf yn ardal Bangor.

Adroddiad Elen Wyn i raglen Newyddion S4C.

Os yw cynnwys y fideo wedi effeithio arnoch, mae gwybodaeth a chefnogaeth ar gael ar wefan Action Line y BBC.