Trelái: Yn fyw o safle'r anhrefn ar ôl gwrthdrawiad
Mae'r gwaith glanhau wedi dechrau, ac ymchwiliad yr heddlu'n parhau, ar ôl noson o anhrefn yn Nhrelái, Caerdydd.
Bu farw dau fachgen yn eu harddegau mewn gwrthdrawiad yn y ddinas nos Lun ac ar ôl hynny fe welwyd golygfeydd treisgar yn yr ardal.
Cafodd ceir eu rhoi ar dân ac fe gafodd gwrthrychau, gan gynnwys tân gwyllt, eu taflu ar swyddogion heddlu.
Gohebydd BBC Cymru, Alun Thomas, wnaeth ymweld â'r ardal fore Mawrth.