Erfyn am 'lonyddwch' wedi anhrefn yng Nghaerdydd nos Lun

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Dyma rai o'r golygfeydd o ardal Trelái nos Lun. Lluniau gan Matthew Horwood

Mae gwleidyddion wedi galw am "gyfnod o lonyddwch" ar ôl i anhrefn ddigwydd yng Nghaerdydd nos Lun, yn dilyn gwrthdrawiad ble bu farw dau fachgen.

Cafodd heddlu terfysg a'r gwasanaethau brys eu galw ar ôl i tua 100 i 150 o bobl ymgasglu yn ardal Trelái wedi'r gwrthdrawiad am tua 18:00.

Mae BBC Cymru'n deall mai Kyrees Sullivan, 16, a Harvey Evans, 15, yw'r ddau berson ifanc fu farw.

Fe gafodd ceir eu rhoi ar dân a gwrthrychau - gan gynnwys tân gwyllt - eu taflu at yr heddlu, a chafodd rhai eu gweld yn torri darnau o bafin a'u taflu.

Dywedodd yr heddlu fod "lefel y trais tuag at y gwasanaethau brys a'r difrod i eiddo a cherbydau yn hollol annerbyniol".

Ychwanegodd y llu fod rhai wedi cael eu harestio mewn cysylltiad â'r anhrefn ac y bydd "rhagor yn dilyn".

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Roedd ceir ar dân a chafodd gwrthrychau eu taflu at yr heddlu yn Nhrelái nos Lun

Brynhawn Mawrth fe wnaeth y BBC weld lluniau teledu cylch cyfyng (CCTV), ac ar y ffilm mae'n ymddangos bod fan heddlu yn dilyn dau o bobl ar feic funudau cyn y gwrthdrawiad angheuol.

Yr amser sydd wedi'i nodi ar y fideo, sydd wedi cael ei wirio gan wasanaeth BBC Verify, yw 17:59 nos Llun 22 Mai.

Cafodd y fideo ei dynnu o Ffordd Frank, Trelái sydd 900m - neu ryw hanner milltir - o'r safle y credir i'r gwrthdrawiad ddigwydd.

Cafodd y fideo, a ddaeth i law drwy asiantaeth newyddion Wales News, ei ryddhau wedi i Gomisiynydd Heddlu De Cymru Alun Michael ddweud wrth y BBC nad oedd swyddogion wedi erlid y ddau fachgen.

Ychwanegodd Mr Michael fod tua dwsin o swyddogion heddlu wedi eu hanafu yn y digwyddiad, ac fe gadarnhaodd y gwasanaeth ambiwlans eu bod wedi cludo pump o bobl i Ysbyty Athrofaol Cymru am driniaeth.

Dywedodd yr heddlu eu bod wedi cael eu galw i wrthdrawiad difrifol ar Ffordd Snowden toc wedi 18:00, a oedd "wedi arwain at farwolaethau dau fachgen yn eu harddegau".

Roedd dyfalu ar gyfryngau cymdeithasol fod yr heddlu'n rhan o'r digwyddiad gwreiddiol, ond dywedodd y llu fod y gwrthdrawiad "eisoes wedi digwydd pan gyrhaeddodd swyddogion".

Cadarnhaodd Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu (IOPC) nad yw'r mater wedi cael ei gyfeirio atyn nhw.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Dywedodd y Dirprwy Brif Gwnstabl Mark Travis: "Gyntaf oll, rydym yn meddwl am deuluoedd y ddau fachgen sydd wedi marw wedi'r gwrthdrawiad yn Nhrelái, a'r rheiny sydd wedi'u heffeithio gan yr anhrefn a ddilynodd hynny.

"Dyw'r rhain ddim yn olygfeydd rydym yn disgwyl ei weld yn ein cymunedau, yn enwedig un mor glos â chymuned Trelái.

"Fe dderbynion ni nifer fawr o alwadau gan drigolion oedd, yn ddealladwy, ag ofn oherwydd gweithredoedd y grŵp mawr yma oedd yn benderfynol o droseddu ac achosi anhrefn.

"Roedd lefel y trais tuag at y gwasanaethau brys a'r difrod i eiddo a cherbydau yn hollol annerbyniol.

"Ein blaenoriaeth nawr yw ymchwilio'n llawn i amgylchiadau'r gwrthdrawiad a'r golygfeydd ofnadwy a ddilynodd hynny."

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Yn siarad ar Dros Frecwast, dywedodd Comisiynydd Heddlu De Cymru ei fod "yn deall" fod "dau o bobl ifanc ar off road bike neu sgwter mewn damwain".

"Fe ddaru'r heddlu wedyn ddod i ddelio gyda'r ddamwain a 'ddaru'r pethe' yma ddigwydd," meddai Alun Michael.

"Mae yna ddim rheswm 'dan ni'n gwybod i hyn ddigwydd, ac mae'n dangos beth fedar ddigwydd pan mae pethe' yn datblygu mor gyflym a gwybodaeth neu wybodaeth anghywir yn mynd o gwmpas ar social media.

"Fel dwi'n deall roedd rhai pobl leol yn meddwl bod 'na rhyw contact gyda yr heddlu cyn y ddamwain - mae hynna ddim yn wir. 'Dan ni yn sicr o hynna.

"Ond mae dwsin o'r heddlu wedi cael eu brifo ond neb wedi colli bywyd neu rhywbeth sydd yn life changing."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Ahmad Abdullah ei fod wedi clywed rhai yn bygwth lladd heddweision

Dywedodd Ahmad Abdullah, 34, ei fod wedi dod allan o'i dŷ ar ôl clywed sŵn gweiddi ar y stryd, a gweld "cannoedd o bobl ifanc yn erlid heddweision i fyny'r hewl, yn taflu cerrig".

Ychwanegodd ei fod wedi clywed rhai yn bygwth lladd heddweision.

"Dywedon nhw na fydden nhw'n stopio tan iddyn nhw ladd swyddog heddlu," meddai.

'Pobl ddim yn teimlo'n ddiogel'

Cafodd tacsi Mr Abdullah a cherbyd ei gymydog eu difrodi yn yr anhrefn, a dywedodd fod cerrig a brics wedi'u taflu at y tŷ ble mae'n byw gyda'i wraig a thri o blant.

"Rydw i wedi bod yn byw yma am bum mlynedd a dydw i erioed wedi cael unrhyw broblemau o'r blaen," meddai.

"Mae'n gymuned glos, groesawgar iawn.

"Nawr dyw pobl ddim yn teimlo'n ddiogel yma. Ry'n ni'n gwybod y gall pethau waethygu ar unrhyw adeg."

Argraffiadau gohebydd BBC Cymru, Alun Thomas, o'r safle ddydd Mawrth

Mae sawl tusw o flodau wedi'u gosod ar bolyn lamp ger y man lle digwyddodd y gwrthdrawiad laddodd y ddau fachgen yn eu harddegau.

Hefyd yn ystod y bore, mae un o faniau'r heddlu wedi bod yn pasio'r safle yn rheolaidd.

Presenoldeb amlwg arall yma yn Nhrelái heddiw yw'r cyfryngau, gyda chynrychiolwyr o bob rhan o Brydain.

Disgrifiad o’r llun,

Olion yr anhrefn yn Nhrelái fore Mawrth

Mae Heddlu'r De yn apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth neu fideos o'r digwyddiad i gysylltu â nhw.

Ychwanegon nhw y bydd presenoldeb amlwg gan yr heddlu yn yr ardal am weddill yr wythnos a'r penwythnos.

Dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford, sy'n cynrychioli'r ardal yn y Senedd, ei fod yn "bryderus iawn i glywed am yr adroddiadau o Drelái yn oriau mân bore' 'ma, ac mae fy meddyliau gyda phawb sydd wedi eu heffeithio".

"Rydym yn parhau i fonitro'r sefyllfa er mwyn cael dealltwriaeth well o'r amgylchiadau," meddai.

Ychwanegodd llefarydd ar ran Prif Weinidog y DU Rishi Sunak fod y golygfeydd yng Nghaerdydd yn "ofnadwy a hollol annerbyniol".

'Angen ymchwiliad'

Mae Aelod o'r Senedd Plaid Cymru dros Ganol De Cymru, Heledd Fychan, wedi galw am ymchwiliad i'r hyn ddigwyddodd.

Disgrifiad,

Dywedodd AS Plaid Cymru dros Ganol De Cymru, Heledd Fychan, fod angen cyfathrebu clir a chefnogaeth ar y gymuned

Ar raglen Dros Ginio BBC Radio Cymru, dywedodd: "Mi oedd yn frawychus iawn i drigolion, wedi creu panig llwyr ac yn gweld o'r holl sylwadau sydd wedi bod, nifer wedi bod ofn yn eu cartrefi yn methu deall pam fod hyn yn digwydd.

"Be' 'dan ni angen rwan yw ymchwiliad ar frys a hefyd cefnogaeth i sicrhau bod yr heddwch yn parhau a bod ni ddim yn gweld rhagor o drais yn yr ardal hon.

"Mae yna gyfle i godi cwestiynau yn y Senedd y prynhawn 'ma a bydda' i yn gwneud hynny.

"Ond yn sicr beth ni angen yw eglurder."

Galw am lonyddwch

Wrth siarad yn y Senedd brynhawn Mawrth , fe ofynnodd Ms Fychan am eglurder ynghylch pa gefnogaeth sydd wedi ei gynnig i ardal Trelái ers y digwyddiad nos Lun.

Yn y cyfamser fe alwodd Jane Hutt, Gweinidog Llywodraeth Cymru, am "gyfnod o lonyddwch" ar ôl y "digwyddiad trasig".

"Fydden i'n galw ar bobl i gefnogi'r heddlu ac asiantaethau eraill sy'n ymwneud â chefnogi'r gymuned leol."

Dywedodd arweinydd Cyngor Caerdydd, Huw Thomas: "Rwy'n gwybod y bydd y mwyafrif o bobl yn Nhrelái yn bryderus iawn am y golygfeydd neithiwr.

"Mae'n hollbwysig cynnal ymchwiliad llawn mor fuan â phosib. Er mwyn i hynny ddigwydd, mae angen llonyddwch.

"Bydd unrhyw barhad o'r trafferthion neithiwr ond yn amharu ar unrhyw ymchwiliad.

"Mae'n bwysig ein bod yn dod at ein gilydd a chydweithio er mwyn darganfod yn union beth ddigwyddodd. Rwy'n annog pawb i wneud popeth o fewn eu gallu i dawelu'r sefyllfa."

Gallwch dderbyn hysbysiadau am straeon mawr sy'n torri yng Nghymru drwy lawrlwytho ap BBC Cymru Fyw ar Google Play, dolen allanol neu App Store, dolen allanol.

Pynciau cysylltiedig