"Peidiwch rhoi fyny": Stori Rob wedi iddo gael strôc
Yn 2018 fe gafodd Rob Owens strôc.
O ganlyniad mae'r cyn-yrrwr tacsi 65 oed o Gorslas ger Cross Hands yn dioddef o affasia, sef anhwylder iaith a chyfathrebu sy'n cael ei achosi yn bennaf gan strôc.
Serch hynny, wedi addo i'w hun na fyddai'n "rhoi mewn", mae'n benderfynol o barhau i frwydro.
"Byddwch yn bositif drwy'r amser, mae lot o bobl yn goddef ar ôl cael strôc, yn colli siarad a cholli ysbryd," meddai.
"Fi'n dweud wrth bawb peidiwch rhoi fyny, mae cefnogaeth ar gael.
"Ry' ni yma i helpu ein gilydd."