Strôc: 'Roeddwn i mewn lle erchyll, tywyll a rhwystredig'

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

"Peidiwch rhoi fyny": Stori Rob Owens wedi iddo gael strôc

"Roeddwn i mewn lle erchyll, tywyll a rhwystredig". 

Yn 2018 fe gafodd Rob Owens strôc.

O ganlyniad mae'r cyn-yrrwr tacsi 65 oed o Gorslas ger Cross Hands yn dioddef o affasia, sef anhwylder iaith a chyfathrebu sy'n cael ei achosi yn bennaf gan strôc. 

Dyw dros hanner pobl Cymru ddim wedi clywed am affasia, yn ôl ymchwil newydd gan y Gymdeithas Strôc.

Ond mae'n effeithio ar dros 350,000 o bobl yn y Deyrnas Unedig.

'Ddim am roi fewn'

Mae affasia yn cael effaith mawr ar allu rhywun i siarad, darllen, ysgrifennu ac/neu i ddefnyddio rhifau.  

Yng Nghymru mae dros 70,000 o oroeswyr strôc yn byw, a bydd dros draean (40%) yn profi affasia yn dilyn eu strôc. 

Dywedodd Rob ei fod yn teimlo'n hollol iach cyn y strôc, a doedd dim rhybuddion. Ond un bore Sul fe gafodd ei daro'n wael a'i gludo i'r ysbyty. 

Roedd y strôc wedi effeithio ar ochr dde ei gorff, ac roedd hefyd yn cael trafferth llyncu a siarad.

Disgrifiad o’r llun,

Yn 2018 fe gafodd Rob Owens strôc

Ond mae'n dweud iddo addo i'w hun bryd hynny na fyddai'n "rhoi mewn".

Mae bellach yn byw mewn byngalo yng Ngorslas sydd wedi ei addasu yn arbennig ar ei gyfer.

Ond mae'n dal i gael anhawster gyda'i leferydd, ac yn defnyddio ffon i gerdded. 

Mae affasia yn gallu cael effaith enfawr ar fywydau pobl.

Mae'r ymchwil newydd gan y Gymdeithas Strôc yn dangos diffyg ymwybyddiaeth am y cyflwr, a hefyd nad oedd dau draean (66%) o'r rheiny gafodd eu holi yn gwybod bod affasia'n anhwylder iaith a chyfathrebu.

Mae Rob bellach wedi llwyddo i gael rhywfaint o ddefnydd yn ôl ar ochr dde ei gorff, ac yn gallu ysgrifennu.

Mae'n dweud fod ei leferydd hefyd wedi dod 'nôl - "ddim yn berffaith, ond lot gwell nag oedd e". 

'Amrywio o berson i berson'

Dyw affasia ddim yn effeithio ar ddeallusrwydd. Ond mae ymchwil yn awgrymu fod tri chwarter pobl Cymru yn credu fod gallu siarad neu gyfathrebu'n dda yn arwydd o ddeallusrwydd.

Mae hynny'n gallu creu problemau mawr iawn i'r rheiny sydd ag affasia.

Dywedodd Katie Chappelle, Cyfarwyddwr Cyswllt Cymru dros y Gymdeithas Strôc: "Mae affasia'n gyffredin iawn, ac yn effeithio ar dros draean o oroeswyr strôc.

"Felly mae'n ddigalon gweld y fath ymwybyddiaeth a gwybodaeth isel am affasia ymysg y cyhoedd yn gyffredinol."

I bobl fel Rob Owens sydd ag affasia, mae'n gallu bod yn gyflwr rhwystredig a digalon. Mae mynd i siopa neu siarad â ffrind yn gallu bod yn anodd.

Pan fydd yn mynd allan o'r tŷ mae'n cario cerdyn yn esbonio ei gyflwr i bobl.

I lawer o bobl fe all hyn arwain at or-bryder ac iselder. Gall hefyd achosi problemau o fewn perthnasoedd personol.

Dywedodd Carys Williams, sy'n therapydd iaith ac yn ddarlithydd ym Mhrifysgol Met Caerdydd, fod effaith affasia yn gallu amrywio o berson i berson.

"Mae'r dwyster yn gallu mynd o rywbeth reit ysgafn i rywbeth dwys iawn," meddai.

Disgrifiad o’r llun,

"Y peth yw gwella cyfathrebu mewn bywyd o ddydd i ddydd," medd Carys Williams

"Os ydyn ni'n meddwl ar y sbectrwm mwyaf dwys, fe all rhywun gael anhawster cyfathrebu llawn pan yn siarad neu ysgrifennu.

"Ar y pegwn arall efallai bod rhywun yn gallu siarad, ond yn cael trafferth canfod geiriau er enghraifft."

Yr "effaith ar yr unigolyn a'u bywyd bob dydd" sy'n bwysig, medd Carys Williams.

Fe fydd cynllun therapi wedyn yn cael ei gynllunio ar sail blaenoriaethau'r claf.

"Fel therapydd iaith a lleferydd y peth yw gwella cyfathrebu mewn bywyd o ddydd i ddydd," ychwanegodd.    

 Ar hyn o bryd mae hi'n gwneud ymchwil ar therapi iaith a lleferydd ar gyfer goroeswyr strôc sy'n siarad Cymraeg, ac yn awyddus i siarad â phobl am eu profiadau.

Mae pobl yn gallu gwella o affasia, a chyda'r cymorth iawn, gall pobl ag affasia hefyd "fyw eu bywydau gorau" yn ôl y Gymdeithas Strôc.

'Mae cefnogaeth ar gael'

Yng Ngorslas mae Rob Owens yn aelod o grŵp lleol i ddynion sydd wedi goresgyn strôc.

Fe fyddan nhw'n cwrdd yn fisol mewn tafarn leol i rannu eu profiadau.

Iddo ef mae hynny'n help, ac mae'n barod iawn i sôn am ei brofiad ei hun ac estyn cyngor.

"Byddwch yn bositif drwy'r amser -mae lot o bobl yn goddef ar ôl cael strôc, yn colli siarad a cholli ysbryd," meddai.

"Fi'n dweud wrth bawb peidiwch rhoi fyny, mae cefnogaeth ar gael.

"Ry' ni yma i helpu ein gilydd."

Pynciau cysylltiedig