'Dyw hi ddim fel hyn fel arfer' ar Sul Steddfod

Mae cyfarwyddwr Eisteddfod yr Urdd wedi disgrifio arbrawf newydd o gael cannoedd o blant yn perfformio ar ddydd Sul cyntaf Eisteddfod yr Urdd fel "profiad bythgofiadwy".

Er mai ddydd Llun mae'r cystadlu'n dechrau, fe ddechreuodd yr ŵyl ieuenctid eleni ar ddydd Sul mewn gwirionedd wrth i filoedd o blant ac oedolion lenwi'r maes yn Llanymddyfri, Sir Gâr.

Roedd dros 900 o blant a phobl ifanc y sir yn perfformio ar wahanol adegau yn ystod y prynhawn ar draws bedwar o lwyfannau'r maes fel rhan o ddigwyddiad Chwilio'r Chwedl.

Bydd yr ŵyl eleni yn dilyn patrwm tebyg i'r llynedd, pan gafodd newidiadau eu gwneud i'r maes sydd bellach yn golygu bod tri llwyfan cystadlu.

Darllenwch y stori'n llawn: Sul anarferol Eisteddfod yr Urdd yn 'arbennig'