Dydd Sul anarferol Eisteddfod yr Urdd yn 'deimlad arbennig'
- Cyhoeddwyd
Mae cyfarwyddwr Eisteddfod yr Urdd wedi disgrifio arbrawf newydd o gael cannoedd o blant yn perfformio ar ddydd Sul cyntaf Eisteddfod yr Urdd fel "profiad bythgofiadwy".
Er mai ddydd Llun mae'r cystadlu'n dechrau, fe ddechreuodd yr ŵyl ieuenctid eleni ar ddydd Sul mewn gwirionedd wrth i filoedd o blant ac oedolion lenwi'r maes yn Llanymddyfri, Sir Gâr.
Roedd dros 900 o blant a phobl ifanc y sir yn perfformio ar wahanol adegau yn ystod y prynhawn ar draws bedwar o lwyfannau'r maes fel rhan o ddigwyddiad Chwilio'r Chwedl.
Bydd yr ŵyl eleni yn dilyn patrwm tebyg i'r llynedd, pan gafodd newidiadau eu gwneud i'r maes sydd bellach yn golygu bod tri llwyfan cystadlu.
'Teimlad arbennig'
Gyda rhagolygon tywydd ffafriol a llawer o'r trigolion lleol eisoes wedi cael blas o beth sydd i'w gynnig, dywedodd cyfarwyddwr Eisteddfod yr Urdd, Sian Eirian eu bod yn ystyried y diwrnod 'ychwanegol' ar y maes eleni'n llwyddiant.
"Braf oedd gweld gymaint yn mwynhau yn yr haul wrth i bobl Sir Gaerfyrddin dyrru i Eisteddfod yr Urdd i fwynhau talentau ifanc y Sir yn Chwilio'r Chwedl," meddai.
Roedd perfformiadau'r gwahanol ysgolion ac aelwydydd - dim mwy na 10 munud o hyd yr un - yn cynnwys caneuon a dawnsio ar bynciau amrywiol, o chwedlau'r Mabinogi i hanes fwy diweddar glowyr yr ardal.
Yn cyfarwyddo'r cyfan oedd Carys Edwards, a ddywedodd mai dyna oedd yr unig ffordd i sicrhau bod plant y sir yn cael dangos eu doniau y tu allan i ddyddiau cystadlu.
"Mi oedd gynnoch chi blant o unedau arbenig, plant di-Gymraeg, plant oedd yn hoffi dawnsio, canu, perfformio," meddai.
"Ac yn bersonol dwi mor falch eu bod nhw'n dangos bo' nhw rili wedi mwynhau.
"Mae wedi bod yn deimlad arbennig bod ar y maes 'ma."
Roedd Indi, 11, yn un o'r perfformwyr ddydd Sul.
"O'n ni 'di creu dawns o'r enw 'Tân ar y Gwaed' yn rapio a gyda phobl eraill," dywedodd.
"Oedd e'n absolutely amazing. O'dd llawer o bobl 'na, o'n ni 'di creu e 'da'r ysgol a o'dd boi o'r enw Gwilym 'di creu'r gân a chreu'r rap."
'Teimlad gwych'
"O'dd hi'n braf jyst gweld pobl yn teithio o amgylch y maes... i ddysgu am hanes y chwedlau a gweld y plant yn perfformio a magu hyder," dywedodd Charlotte Evans sy'n athrawes yn Ysgol Llanllwni.
"Ma'n wych cael gymaint o bobl sydd ddim yn gyfarwydd a'r Steddfod yma, pobl ddi-Gymraeg sydd mo'yn dysgu'r Gymraeg.
"Mae teimlad gwych ambiti'r lle."
Roedd celf yn rhan o'r perfformiad hefyd, gyda meinciau arbennig wedi eu creu sy'n adrodd hanesion gwahanol yr ardal.
I'r rheiny oedd ddim yno ddydd Sul i weld y perfformiadau, ond sy'n ymweld yn ystod yr wythnos, mae modd gwylio'r perfformiadau yn ôl drwy sganio delweddau QR ar y meinciau pwrpasol hynny.
Llinos Jones fu'n arwain y gwaith a dywedodd: "Ma' 'na 15 mainc wedi cael eu creu gan y Men Shed yn Drefach.
"Ma' nhw 'di bod yn mynd o gwmpas ysgolion i gael eu peintio efo'u chwedlau 'di paentio arnyn nhw.
Dywedodd fod yr artist Karen McRobbie wedi bod yn peintio'r meinciau gyda phlant yr ardal.
"Ar bob un mainc wedyn mae gynnon ni QR code sy'n mynd a chi i playlist bob un perfformiad oedd yn digwydd heddiw [ddydd Sul]."
'Cynnwys pawb'
Gyda Sir Gaerfyrddin yn sir mor fawr, dywedodd Sian Eirian ei bod wedi bod yn fwriad, ers y dechrau, i gynnwys pawb yn yr Eisteddfod hon.
Gyda phrosiect 23 a sioe Chwilio'r Chwedl, dywedodd fod hynny wedi bod yn bosib.
"'Dyn ni ddim wedi gwrthod un plentyn i fod yn rhan o'r sioe," meddai.
"Ond be' sydd yn bwysig yw ein bod ni wedi cynnwys celf a bod hwnna wedi bod yn brosiect blwyddyn, a bo' 'na 900 arall yn rhan o hwnna.
"Be' sy'n hollbwysig i'n plant a phobl ifanc ni yw ein bod ni'n cynnwys pawb."
Roedd Delyth Davies ar y maes ddydd Sul i weld ei merch yn perfformio, ac yn methu credu'r dorf oedd yno cyn i'r cystadlu ddechrau ddydd Llun.
"Am ddydd Sul cyntaf y 'Steddfod dyw hi ddim fel hyn fel arfer," meddai.
"Ma' fe'n lyfli a ma'r haul yn disgleirio a jyst i weld gymaint o blant ysgolion Sir Gâr ma' fe'n hyfryd, ffantastig!"
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Mai 2023
- Cyhoeddwyd28 Ebrill 2023
- Cyhoeddwyd23 Mawrth 2023