Poeni y bydd cynllun ceiswyr lloches yn bygwth priodas

Roedd clywed am gynlluniau posib i gartrefu ceiswyr lloches mewn gwesty yn Llanelli yn "sioc lwyr" i gwpl sydd wedi gwario miloedd ar drefnu eu priodas yno.

Mae Miriam Williams, 37, a'i phartner Liam Martin, 40, o Lanelli, eisoes wedi talu £2,000 tuag at eu priodas sydd i fod i ddigwydd ym mis Hydref.

Mae disgwyl iddyn nhw dalu £1,500 yn ystod yr wythnosau nesaf.

Ers i Gyngor Sir Gaerfyrddin ddatgelu cynlluniau'r Swyddfa Gartref yr wythnos ddiwethaf, mae Miriam yn amau a fydd y briodas yn gallu cael ei chynnal yng Ngwesty Parc y Strade.

Mewn llythyr a welwyd gan BBC Cymru, dywedodd y gwesty bod "busnes fel arfer" a bod unrhyw honiadau am roi cartref i geiswyr lloches yn "ddi-sail."

Ond dywedodd Cyngor Sir Gaerfyrddin eu bod wedi cael gwybod bod y Swyddfa Gartref yn ystyried darparu llety i" fwy na 300 o geiswyr lloches" yng Ngwesty Parc y Strade.

Dywed y Swyddfa Gartref eu bod "wedi ymrwymo i leihau'r defnydd o westai a chyfyngu ar faich trethdalwyr".