Llanelli: Pryder am briodas oherwydd cynllun ceiswyr lloches
- Cyhoeddwyd
Mae cwpl sydd fod i briodi mewn gwesty yn Llanelli yn ansicr a fydd y briodas yn digwydd yn sgil cynlluniau posib gan y Swyddfa Gartref i leoli dros 300 o geiswyr lloches yno.
Mae Miriam Williams, 37, a'i phartner Liam Martin, 40, o Lanelli, eisoes wedi talu £2,000 tuag at eu priodas sydd i fod i ddigwydd ym mis Hydref.
Yn ystod yr wythnosau nesaf mae disgwyl iddyn nhw dalu £1,500 arall.
Ers i Gyngor Sir Gaerfyrddin ddatgelu cynlluniau'r Swyddfa Gartref yr wythnos ddiwethaf, mae Miriam yn amau a fydd y briodas yn gallu cael ei chynnal yng Ngwesty Parc y Strade.
Mewn llythyr a welwyd gan BBC Cymru, dywedodd y gwesty bod "busnes fel arfer" a bod unrhyw honiadau am roi cartref i geiswyr lloches yn "ddi-sail."Ond dywedodd Cyngor Sir Gaerfyrddin eu bod wedi cael gwybod bod y Swyddfa Gartref yn ystyried darparu llety i" fwy na 300 o geiswyr lloches" yng Ngwesty Parc y Strade.
Dywed y Swyddfa Gartref eu bod "wedi ymrwymo i leihau'r defnydd o westai a chyfyngu ar faich trethdalwyr".
Yn y cyfamser, cynhaliwyd cyfarfod cyhoeddus yng Nghanolfan Selwyn Samuel yn Llanelli ddydd Sul i drafod y cynlluniau.
Ar ôl clywed y newyddion, mae Miriam yn poeni na fydd modd cynnal ei phriodas yn y gwesty, a gallai golli'r arian y mae hi eisoes wedi'i dalu am y lleoliad a staff.
"Mae'r dyddiau diwethaf wedi bod yn bryderus iawn i ni," meddai.
"Mae'n priodas ni wedi'i threfnu ar gyfer mis Hydref ac mae llawer o briodasau eraill wedi'u trefnu yna hefyd.
'Colli arian'
"Mae staff y gwesty yn dweud nad ydyn nhw wedi cael gwybod a fydd y priodasau hyn yn cael eu cynnal ai peidio.
"Fi mewn perygl o golli miloedd o bunnoedd. Ni eisoes wedi talu £2,000, ac rydym i fod i dalu £1,500 arall yn fuan iawn.
"Ni mewn perygl o golli'r arian yna os ry'n ni'n penderfynu canslo, ond wedyn os bydd y gwesty'n canslo bydd yn rhaid i ni sgramblo i chwilio am leoliad arall sy'n annhebygol o ddigwydd funud olaf.
"Ni wedi gwario ar gacennau, blodau, ffrogiau, a'r DJ ac ati hefyd, felly mae miloedd ar filoedd o bunnoedd allai fynd yn wastraff.
"Roedd yn sioc lwyr pan glywon ni am y cynlluniau. Mae cynllunio priodas yn ddigon o straen beth bynnag a phan nad ydych chi'n gwybod a yw'n mynd i fynd ymlaen ai peidio mae'n waeth byth.
"Siaradais ag aelod o staff yna heddiw ac fe ddywedon nhw eu bod yn gwneud eu gorau i gadarnhau popeth."
Roedd y llythyr a welwyd gan y BBC yn dweud: "Yng Ngwesty Parc y Strade, rydym yn deall pwysigrwydd cyfathrebu clir ac agored gyda'n gwesteion a'r cyhoedd yn ehangach.
"Mae wedi dod i'n sylw bod cwestiynau a chamddealltwriaeth posibl ynghylch ein gweithrediadau, yn enwedig ynghylch natur ein llety i westeion.
"Rydym yn ysgrifennu'r llythyr hwn i fynd i'r afael â'r materion hyn a'u hegluro. Ar hyn o bryd nid oes gan Westy Parc y Strade unrhyw gytundeb ffurfiol nac anffurfiol i ddarparu llety i geiswyr lloches.
"Mae unrhyw honiadau sy'n awgrymu fel arall yn ddi-sail ac nid ydynt yn unol â'n polisïau gweithredol presennol.
"Hoffwn eich sicrhau ei fod yn 'fusnes fel arfer' yng Ngwesty Parc y Strade."
'Gwesty gorau Llanelli'
Dywedodd Miriam: "Fe wnaethon ni ddewis y gwesty oherwydd dyma'r gwesty gorau yn Llanelli.
"Maen nhw'n cynnal priodasau a digwyddiadau arbennig. Roedden ni mor gyffrous pan wnaethon ni ddechrau trefnu'r briodas ac yna mae clywed y newyddion hyn yn gwbl ddinistriol.
"Rydyn ni eisiau i'r Swyddfa Gartref ystyried lleoliad arall, nid gwesty 4 seren mewn pentref bach sy'n cynnal cymaint o ddigwyddiadau ac sy'n cael ei ddefnyddio mor aml."
Fe wnaeth Cyngor Sir Gaerfyrddin, Comisiynydd Heddlu a Throseddu Heddlu Dyfed-Powys a Bwrdd iechyd Hywel Dda godi pryderon ar y cyd am y cynlluniau yr wythnos diwethaf.
Roedden nhw'n honni y byddai'r cynlluniau'n cael effaith negyddol ar y gymuned ac yn rhoi "straen sylweddol" ar addysg a gwasanaethau iechyd.
'Hollol annerbyniol'
Yn siarad ar raglen Dros Frecwast Radio Cymru, dywedodd yr Aelod Seneddol lleol ei bod yn "sefyllfa ofnadwy" i'r rheiny sy'n disgwyl cynnal priodasau.
"Mae'n hollol annerbyniol y ffaith nad ydy'r perchennog yn rhoi gwybod iddyn nhw beth sy'n digwydd a ddim yn rhoi atebion chwaith i alwadau ffôn oddi wrth y sir," meddai'r Fonesig Nia Griffith AS, sy'n cynrychioli etholaeth Llanelli.
"Ry'n ni yn credu y dylen ni ddweud wrth bawb yr hyn yr ydyn ni'n gwybod, ond y ffaith bod y Swyddfa Gartref yn edrych ar westy Parc y Strade a'u bod nhw efallai i ddefnyddio'r gwesty ar gyfer ceiswyr lloches a chael cwmni Clearsprings i ofalu amdanyn nhw...
"Y ffaith yw nad yw'r Swyddfa Gartref wedi ymgynghori gyda Llywodraeth Cymru nac wedi ymgynghori gyda'r sir.
"Rydw i wedi cael e-bost, a'r sir wedi cael yr un math o beth, i ddweud eu bod nhw yn edrych ar y Strade.
"Ond mi fyddwn ni yn ceisio cael mwy o wybodaeth am fod y sefyllfa yma'n hollol wahanol i'r cynllun trefnus lle ry'n ni wedi cael un neu ddau deulu ar y tro o Syria ac yn gwybod eu bod nhw'n dod a'n gallu eu helpu i setlo."
'Cyfyngu ar faich y trethdalwyr'
Mae BBC Cymru wedi gofyn i'r Swyddfa Gartref am ymateb i bryderon Miriam a dywedodd llefarydd "nad ydynt yn gwneud sylw ar drefniadau masnachol safleoedd unigol a ddefnyddir ar gyfer llety lloches".
Ychwanegodd: "Mae nifer y bobl sy'n cyrraedd y DU sydd angen llety wedi cyrraedd y lefelau uchaf erioed ac mae straen aruthrol ar ein system lloches.
"Mae'r Swyddfa Gartref wedi ymrwymo i leihau'r defnydd o westai a chyfyngu a faich ar y trethdalwr."
Dywed Cyngor Sir Caerfyrddin nad yw'r gwesty "yn addas ar gyfer y diben a gynigir a chredant y bydd angen caniatâd cynllunio i fynd ymhellach".
"Er nad yw'r cyngor wedi gweld yr hyn y mae'n tybio sy'n gynnig manwl, mae'r cyfathrebiad â'r Swyddfa Gartref hyd yma wedi bod yn anghyson ac wedi diystyru ein holl bryderon," medd llefarydd.
"Mae'r cyfathrebiad gyda Clearsprings (darparwr tai preifat y Swyddfa Gartref) wedi bod yn siomedig ac nid yw'n rhoi hyder i'r cyngor eu bod yn deall y cyd-destun lleol."
Mae Sterling Woodrow wedi cael cais am ymateb.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Ionawr 2023
- Cyhoeddwyd24 Mai 2023
- Cyhoeddwyd9 Mai 2023