Gwilym Morgan: 'Mor anhygoel' i ennill Medal y Dysgwyr

Mae enillydd Medal y Dysgwyr yn Eisteddfod yr Urdd 2023 wedi dweud ei fod yn deimlad "anhygoel" i gael ei wobrwyo.

Roedd Gwilym Morgan, o Gaerdydd, yn un o ddau o bobl ifanc wnaeth dderbyn prif wobrau dysgu Cymraeg yr ŵyl yn Llanymddyfri ddydd Mawrth.

Enillodd Gwilym Fedal y Dysgwyr, i bobl ifanc dan 19 oed, tra bod Yvon-Sebastien Landais, o Ddinbych y Pysgod, wedi ennill Medal Bobi Jones i'r rheiny rhwng 19-25.