Cyhoeddi enillwyr cystadlaethau dysgu Cymraeg yr Urdd

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Seb a GwilymFfynhonnell y llun, Eisteddfod yr Urdd
Disgrifiad o’r llun,

Fe gafodd Seb Landais (chwith) a Gwilym Morgan eu hanrhydeddu ar y maes ddydd Mawrth

Mae dau o bobl ifanc wedi derbyn prif wobrau dysgu Cymraeg Eisteddfod yr Urdd 2023.

Gwilym Morgan, o Gaerdydd, oedd enillydd Medal y Dysgwyr, a Yvon-Sebastien Landais, o Ddinbych y Pysgod, enillodd Medal Bobi Jones.

Cafodd y ddau eu gwobrwyo yn y brif seremoni ar Lwyfan y Cyfrwy ar y maes yn Llanymddyfri brynhawn Mawrth.

Nod cystadleuaeth Medal y Dysgwyr a Medal Bobi Jones ydy gwobrwyo pobl sydd wedi ymrwymo i ddysgu Cymraeg ac yn ymfalchïo yn eu Cymreictod, meddai'r Urdd.

Mae Medal Bobi Jones yn cael ei dyfarnu i bobl ifanc 19-25 oed, tra bod Medal y Dysgwyr ar gyfer pobl ifanc rhwng blwyddyn 10 a dan 19 oed.

Dechreuodd Gwilym ddysgu Cymraeg yn yr ysgol fel rhan o'i Lefel A, neu Safon Uwch, ond mae hefyd wedi ei ysbrydoli gan ei fam a ddechreuodd ddysgu Cymraeg yn 2015.

"Penderfynais i ddysgu Cymraeg achos dwi'n caru'r iaith," meddai.

Disgrifiad,

Gwilym Morgan: "Mor anhygoel" i ennill Medal y Dysgwyr

"Credaf ei bod hi'n bwysig iawn i barhau ein hiaith, mae'n iaith o'n gwlad, mae'n rhan o'n diwylliant ac yn rhan allweddol o bwy ydw i."

Seb yw'r unig un yn ei deulu sydd yn siarad Cymraeg, ond roedd ei hen, hen fam-gu a'i hen, hen dad-cu yn arfer ei siarad.

Dechreuodd ddysgu Cymraeg ar-lein drwy ddefnyddio Duolingo, ac mae'n mwynhau siarad yr iaith bob cyfle phosib.

"Dechreuais i ddysgu Cymraeg achos Cymro dwi a dwi eisiau mynd drwy Gymru a siarad gyda phobl yn Gymraeg," meddai.

"Pryd bynnag dwi gyda phobl Cymraeg, dwi eisiau siarad gyda nhw yn Gymraeg hefyd."