Anghenion dysgu ychwanegol: 'Angen gwella darpariaeth Gymraeg'

Mae Comisiynydd y Gymraeg a Chomisiynydd Plant Cymru yn galw am wella'r ddarpariaeth ar gyfer gwasanaethau anghenion dysgu ychwanegol drwy'r Gymraeg.

Mae gan tua 20% o blant Cymru anghenion dysgu ychwanegol.

Bydd y comisiynwyr yn cynnal digwyddiad ar y cyd ar faes Eisteddfod yr Urdd ddydd Iau, ac yn cyhoeddi nifer o alwadau.

Yn siarad ar Dros Frecwast dywedodd Efa Gruffudd Jones, Comisiynydd y Gymraeg, fod problem yn y maes yn gyffredinol, ond "yn arbennig" drwy gyfrwng y Gymraeg.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym yn cydnabod yr heriau o greu system gymorth ddwyieithog ar gyfer dysgwyr ag Anghenion Dysgu Ychwanegol.

"Mae addysg Gymraeg i bawb, a dyna pam rydym wedi sicrhau bod darpariaeth Anghenion Dysgu Ychwanegol cyfrwng Cymraeg yn rhan allweddol o gynlluniau addysg awdurdodau lleol."