Ydy'r geiriau yma'n gyfarwydd i chi?
'Jibio', 'hercan', 'trampan', 'gelan' - dyma rhai o'r geiriau sy'n gyfarwydd i bobl ifanc Cymru y dyddiau yma.
Ddydd Gwener ar faes Eisteddfod yr Urdd bu'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol a Chomisiynydd y Gymraeg yn galw ar bobl ifanc i rannu'r geiriau Cymraeg anffurfiol maen nhw'n eu defnyddio gyda'i gilydd.
Mae'n rhan o raglen y ganolfan i ddarparu gwasanaethau dysgu cymraeg am ddim i bobl 16-25 oed.
Dywedodd Donna Lewis o'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol fod "pob math o eiriau diddorol wedi dod i'r fei" wrth i bobl ifanc rhannu rhai o'u hoff eiriau.