Ymgyrch i gasglu geiriau pobl ifanc ar gyfer dysgwyr

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Disgrifiad,

Roedd "pob math o eiriau diddorol wedi dod i'r fei" wrth i bobl ifanc yr Eisteddfod rannu eu hoff eiriau

'Hercan,' 'sgram', 'copsan', 'spragio' - ydy'r geiriau yma'n gyfarwydd i chi?

Dyma rai o'r geiriau sy'n gyfarwydd i bobl ifanc y dyddiau 'ma - geiriau na sy'n cael eu cofnodi mewn nifer o eiriaduron ond geiriau, medd Comisiynydd y Gymraeg, a fydd yn "cyfoethogi'r iaith i'r dyfodol".

Ddydd Gwener ar faes Eisteddfod yr Urdd, bydd y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol a Chomisiynydd y Gymraeg yn galw ar bobl ifanc i rannu'r geiriau Cymraeg anffurfiol maen nhw'n eu defnyddio gyda'i gilydd.

Mae'n rhan o raglen y Ganolfan i ddarparu gwasanaethau Dysgu Cymraeg am ddim i bobl 16-25 oed.

Gall y geiriau hynny amrywio o ardal i ardal a'r nod yw rhannu'r geiriau a'r ymadroddion mewn gwersi ac adnoddau Dysgu Cymraeg penodol ar gyfer pobl ifanc 16-25 oed.

Ers 2022, mae hyfforddiant Dysgu Cymraeg am ddim i bobl rhwng 16-25.

Disgrifiad o’r llun,

"Wrth i ni ddarparu ar gyfer ystod iau o ddysgwyr, mae'n bwysig ein bod ni'n defnyddio iaith gyfoes," medd Dona Lewis

Mae'r ddarpariaeth yn cynnwys cyrsiau wyneb yn wyneb a dosbarthiadau rhithiol, cynlluniau peilot mewn ysgolion a cholegau Addysg Bellach, a mynediad at adnoddau digidol fel SaySomethinginWelsh, dolen allanol.

'Perthnasol ac addas'

Yn ôl Comisiynydd y Gymraeg, Efa Gruffudd Jones: "Ers cychwyn yn y swydd hon ar ddechrau'r flwyddyn, mae siarad â phobl ifanc a chasglu eu barn wedi bod yn flaenoriaeth i mi gan mai nhw fydd yn sicrhau parhad yr iaith Gymraeg i'r dyfodol.

"Rwyf eisoes wedi cwrdd â nifer ohonynt ac wrth fy modd gyda'u brwdfrydedd tuag at yr iaith.

"Er mwyn i iaith ffynnu mae angen iddi allu bodoli ar sawl lefel, yn ffurfiol ac anffurfiol, ac rwy'n edrych ymlaen yn fawr at glywed yr eirfa ddaw o'r cynllun hwn - geirfa fydd yn cyfoethogi'n hiaith i'r dyfodol."

Ffynhonnell y llun, Geiriadur Prifysgol Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Mae Geiriadur Prifysgol Cymru yn dangos bod y gair 'sgram' yn ymddangos yng nghyfrol 'Cwm Eithin' Hugh Evans yn 1931

Ychwanegodd Dona Lewis, Prif Weithredwr y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol: "'Dan ni'n adolygu ein cyrsiau ac adnoddau yn gyson er mwyn sicrhau eu bod yn berthnasol ac yn addas.

"Wrth i ni ddarparu ar gyfer ystod iau o ddysgwyr, mae'n bwysig ein bod ni'n defnyddio iaith gyfoes, i'w helpu i deimlo'n fwy hyderus wrth siarad â phobl ifanc eraill yn eu cymunedau.

"Mi gawson ni ymgyrch debyg y llynedd, ar y cyd â'r Mudiad Meithrin, i gasglu geiriau 'siarad babi' ac mae'r rhain bellach yn cael eu defnyddio yng nghylchoedd y Mudiad, grwpiau Ti a Fi a gweithgareddau Cymraeg i Blant ar gyfer rhieni a gofalwyr plant bach.

"'Dan ni rŵan yn galw ar bobl ifanc i roi gwybod i ni beth yw'r geiriau maen nhw'n eu defnyddio."

Ymhlith yr ymadroddion a ddaeth i'r fei adeg casglu geiriau 'siarad babi' roedd 'ych a pych', 'cygi beis', a 'doto'.

'Iaith yn newid'

Disgrifiad,

Dylan Foster Evans sy'n esbonio pwysigrwydd cofio nad yw iaith yn aros yn ei hunfan.

Yn ôl Dr Dylan Foster Evans, pennaeth Ysgol y Gymraeg Prifysgol Caerdydd ac un sy'n ymddiddori yn y gwahanol fathau o Gymraeg a ddefnyddir yn y Gymru gyfoes, mae'n rhaid cofio nad yw iaith yn aros yn ei hunfan.

"Felly mae'n hanfodol ein bod yn talu sylw i sut mae'r Gymraeg yn cael ei siarad gan y cenedlaethau iau," meddai.

"Bydd gweld yr amrywiaeth o eiriau ac ymadroddion a fydd yn cael eu casglu yn ystod yr ymgyrch hon yn hynod ddiddorol.

"Mae'n siŵr y gwelwn gyfuniad o ymadroddion newydd a rhai sy'n fwy cyfarwydd ond yn cael eu defnyddio mewn ffyrdd arbennig gan bobl ifanc.

"Rwy'n edrych ymlaen yn arw at weld y rhai na fydd gennyf syniad o'u hystyr!"

Mae modd cyfrannu'r geiriau ar sianeli cyfryngau cymdeithasol y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol gyda'r hashtag #FyIaith neu trwy eu gwefan, dysgucymraeg.cymru, dolen allanol.