Rhun ap Iorwerth: 'Penderfynol o fynd i'r afael â phroblemau Plaid'

Mae Aelod o'r Senedd Ynys Môn, Rhun ap Iorwerth wedi cael ei gadarnhau fel arweinydd newydd Plaid Cymru.

Cafodd ei enwi'n arweinydd mewn cynhadledd newyddion amser cinio yng Nghaerdydd.

Yn siarad gyda BBC Cymru dywedodd Rhun ap Iorwerth ei fod yn benderfynol o fynd i'r afael efo'r problemau o fewn y blaid, wedi'r adolygiad damniol a ddaeth i'r casgliad bod yna ddiwylliant o "aflonyddu, bwlio a misogynistiaeth".

"Wrth gwrs mae 'na waith," meddai. "'Dan ni angen... rhoi trefn ar ein hunain fel plaid mewn ambell ffordd.

"Y peth cyntaf un ddwedes i wrth gyhoeddi mod i'n sefyll oedd fy mod i'n gwbl, gwbl benderfynol o fynd i'r afael â'r hyn glywon ni yn yr adroddiad yna.

"Yr hyn sy'n fy ngwneud i'n bositif ydy ein bod ni â'r cynllun yma yn adroddiad Prosiect Pawb. Mae ganddon ni fap ynglŷn â sut i symud ymlaen.

"Dwi'n hyderus y byddwn ni'n gallu dangos yn fuan iawn ein bod ni ar y trywydd iawn."

Wrth edrych ymlaen at yr etholiad nesaf dywedodd ei fod yn barod am yr her: "Mae'n etholiad anodd, yr etholiad nesaf, mewn sawl ffordd.

"Be dwi isio neud ydy bod yn hyderus yn yr etholiad yna, bod ni wedi gwneud popeth gallwn ni i gael Cymru i siarad am beth ma' Plaid Cymru yn ei gynnig."