Plaid Cymru: 'Diwylliant o aflonyddu, bwlio a misogynistiaeth'

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Adam Price 'am weithio i drwsio problemau yn y blaid' (cyfweliad o 3 Mai)

Mae angen i Blaid Cymru "ddadwenwyno diwylliant o aflonyddu, bwlio a misogynistiaeth", yn ôl adolygiad damniol o'r blaid.

Mae'n dweud bod "gormod o achosion o ymddygiad gwael gan aelodau etholedig".

Mae arweinydd y blaid, Adam Price, wedi ymddiheuro a dywedodd fod pob un o'r 82 argymhelliad yn yr adroddiad wedi eu derbyn.

Dywed Adam Price wrth y BBC na fydd yn ymddiswyddo a'i fod am weithio i drwsio problemau yn y blaid.

Ond fe gyfaddefodd i'r adroddiad "niweidio" enw da, ymddiriedaeth a hygrededd Plaid Cymru.

Dan arweiniad cyn-wleidydd Plaid Cymru, Nerys Evans, fe ddechreuodd gweithgor edrych ar gwynion am ddiwylliant mewnol y blaid fis Rhagfyr diwethaf.

'Gwneud sefyllfa wael yn waeth fyth'

Dywed canfyddiadau allweddol yr adroddiad Prosiect Pawb bod "diffyg gweithredu dros flynyddoedd lawer, gan y rhai sydd mewn swyddi o rym i herio ymddygiad gwael, wedi gwneud sefyllfa wael yn waeth fyth".

Mae tystiolaeth o arolwg dienw o staff ac aelodau etholedig "yn amlygu achosion o aflonyddu rhywiol, bwlio a gwahaniaethu. Nid achosion unigol yw'r rhain".

Mae'r gwahaniaethu a wynebir yn seiliedig ar rywedd yn bennaf, meddai.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Dywed yr adroddiad, "rhaid i'r Pwyllgor Gwaith Cenedlaethol fod yn hyderus y bydd y camau a gymerir yn sgil canfyddiadau ac argymhellion Prosiect Pawb yn effeithiol o ran galluogi mesurau parhaol, na ellir eu gwrthdroi, i ddadwenwyno diwylliant o aflonyddu, bwlio a misogynistiaeth ac i wneud Plaid Cymru yn wirioneddol ac yn amlwg groesawgar i fenywod".

Mae llawer o faterion Adnoddau Dynol y mae angen mynd i'r afael â nhw ar fyrder, meddai.

"Mae staff wedi adrodd am fwlio a gwahaniaethu yn y gweithle. Mae angen i ni ddeall graddau a maint y problemau hyn yn well.

"Mae sawl aelod o staff yn teimlo nad oes systemau diogel i godi pryderon, i geisio cymorth neu i herio'r hyn maent yn ei weld.

"Maent wedi gweld gormod o achosion o ymddygiad gwael gan aelodau etholedig yn cael eu goddef ac yn teimlo nad oes llawer o ddiben codi pryderon."

'Mae'n ddrwg iawn gennym'

Dywed datganiad ar y cyd gan arweinydd y blaid Adam Price a'r cadeirydd Marc Jones ar ran Pwyllgor Gwaith Plaid Cymru: "Mae'n amlwg bod yna achosion - yn hanesyddol ac yn fwy diweddar - lle caniatawyd i ymddygiad annerbyniol ddigwydd neu fynd heb ei herio a bod ein prosesau a'n trefniadau llywodraethu wedi bod yn annigonol i fynd i'r afael â hyn.

"Mae unigolion wedi cael eu gadael i lawr o ganlyniad - merched yn arbennig, ond hefyd dynion.

"Am hynny, ar ran arweinyddiaeth gyfunol Plaid Cymru, mae'n ddrwg iawn gennym."

Mewn cyfweliad gyda BBC Cymru, ymddiheurodd Mr Price i bawb a brofodd neu a welodd ymddygiad annerbyniol, a dywedodd fod Plaid Cymru yn gynnyrch y gymdeithas yr oedd yn ceisio ei newid.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Adam Price wrth y BBC na fydd yn ymddiswyddo a'i fod am weithio i drwsio problemau yn y blaid

"Rwy'n credu bod unrhyw un sy'n wynebu amgylchiadau fel hyn yn mynd i ofyn i'w hunain, beth ddylwn i ei wneud?"

"A ddylwn i ddangos fy nghyfrifoldeb trwy gerdded i ffwrdd ac ymddiswyddo?

"Neu a yw hynny'n ymwrthod â chyfrifoldeb?"

Daeth i'r casgliad, meddai, y dylai "weithio gydag eraill ar draws y blaid i wneud hyn yn iawn".

'Gwerthoedd'

Ym mis Rhagfyr fe adawodd prif weithredwr Plaid Cymru, Carl Harris, ei swydd, a hynny wedi llai na blwyddyn a hanner.

Yn dilyn ymadawiad Mr Harris, dywedodd Adam Price fod y blaid wedi penodi eu cyn-Aelod Cynulliad Nerys Evans i gadeirio grŵp gwaith ochr yn ochr â'u Pwyllgor Gweithredol Cenedlaethol.

Dywedodd fod y grŵp wedi ei sefydlu "fel ein bod ni'n cyrraedd y sefyllfa 'syn ni eisiau bod ynddi, lle 'dyn ni'n glir ar ein gwerthoedd".

Roedd BBC Cymru wedi adrodd bod honiad o ymosodiad rhyw wedi cael ei wneud yn erbyn aelodau blaenllaw o staff, a bod person arall hefyd wedi honni i'r aelod hwnnw eu gwneud nhw'n anghyfforddus sawl gwaith.

Maen nhw'n honiadau gwahanol i'r rheiny gafodd eu gwneud yn erbyn AS Plaid Cymru, Rhys ab Owen, sy'n parhau i fod wedi ei wahardd o grŵp y blaid yn y Senedd wrth i gomisiynydd safonau'r Senedd gynnal ymchwiliad.

Pynciau cysylltiedig