Meddyg teulu: 'Amddiffyn ein hunain rhag y straen'

Bydd gwasanaethau meddygon teulu "ar y dibyn" yng Nghymru - a'r GIG yn dilyn yr un trywydd yn fuan - oni bai bod cymorth brys ar gael.

Dyna'r rhybudd gan gymdeithas feddygol y BMA, sydd wedi ysgrifennu at weinidog iechyd Cymru i alw am fwy o gyllid i'r sector a rhagor o gymorth i staff.

Wrth i fwy a mwy o gleifion gofrestru, mae yna lai o feddygfeydd ac adnoddau ac mae'n mynd yn anoddach denu a chadw staff.

Yn ôl Llywodraeth Cymru, maen nhw'n cymryd camau i leihau'r pwysau ar feddygon teulu.

Un meddyg teulu sy'n teimlo'r straen ydy Dr Meleri Evans, sy'n gweithio ar Ynys Môn.

"Mae diwrnod yn 12 awr yn hawdd, yn enwedig os ydy rhywun ar alwad," meddai.

"Ac mae nifer ohonon ni'n ffeindio bod hynny ddim yn ddigon o amser i ddelio efo popeth arall sy'n dod efo'r swydd."