Meddygfeydd teulu 'ar y dibyn' heb gymorth brys

Dr Meleri Evans
Disgrifiad o’r llun,

Mae Dr Meleri Evans yn feddyg teulu ar Ynys Môn, ac yn dweud bod y swydd "yn dal i fod yn fraint" er gwaethaf y pwysau

  • Cyhoeddwyd

Bydd gwasanaethau meddygon teulu “ar y dibyn" yng Nghymru - a'r GIG yn dilyn yr un trywydd yn fuan - oni bai bod cymorth brys ar gael, medd cymdeithas feddygol y BMA.

Mae'r corff wedi ysgrifennu at weinidog iechyd Cymru i alw am fwy o gyllid i'r sector a rhagor o gymorth i staff.

Wrth i fwy a mwy o gleifion gofrestru, mae yna lai o feddygfeydd ac adnoddau ac mae'n mynd yn anoddach denu a chadw staff.

Yn ôl Llywodraeth Cymru, maen nhw'n cymryd camau i leihau'r pwysau ar feddygon teulu.

Disgrifiad,

Dr Meleri Evans: "'Dan ni angen awyrgylch a lle gwaith sy'n denu pobl"

'Chwarter yn ystyried gadael'

Mae rhai ardaloedd, yn ôl y BMA, "mewn argyfwng" ac mae gorflinder a chyfraddau gadael yn effeithio ar y proffesiwn, gan wneud y materion hyn yn waeth.

Un meddyg teulu sy'n teimlo'r straen ydy Dr Meleri Evans, sy'n gweithio ar Ynys Môn.

"Mae diwrnod yn 12 awr yn hawdd, yn enwedig os ydy rhywun ar alwad," meddai.

"Ac mae nifer ohonon ni'n ffeindio bod hynny ddim yn ddigon o amser i ddelio efo popeth arall sy'n dod efo'r swydd.

"Nid yn unig gweld pobl, ond y gwaith papur, y profion sydd angen ymateb iddyn nhw."

Disgrifiad o’r llun,

Mae pedwar o bob pum meddyg teulu yn dweud fod eu pwysau gwaith yn rhy uchel

Mae'n ddarlun sy'n cael ei adlewyrchu ar draws y wlad, gyda'r BMA yn cyhoeddi casgliadau arolwg diweddar sy'n dangos sector dan straen.

O'r 240 meddyg teulu wnaeth ymateb i'r arolwg, roedd 80% yn pryderu bod eu llwyth gwaith uchel yn eu rhwystro rhag darparu gofal diogel a safonol i gleifion.

Roedd 26.6% hefyd yn ystyried gadael y proffesiwn yn fuan.

Cau 84 meddygfa mewn degawd

Mae Dr Meleri Evans yn un o'r rhai sy'n cwestiynu ei dyfodol hirdymor yn y maes.

"Dwi'n gymharol ifanc yn fy ngyrfa, ond dwi ddim yn teimlo felly - dydy hyn ddim yn rhywbeth alla' i wneud tan mod i'n 67," meddai.

"Mae siarad efo pobl sydd 'di bod yn yr yrfa yma'n hirach yn gwneud i mi boeni'n waeth achos maen nhw'n teimlo hyn hefyd.

"Felly dwi yn pryderu, dwi'n teimlo bod ni ar ben lôn yn fan 'ma, fel 'dan ni heb fod am ddegawdau.

"O'n i eisiau bod yn feddyg ers o'n i'n ifanc iawn, ond mae o'n mynd yn anoddach.

"Y gwir ydy, er bod y swydd yn dal i fod yn fraint, mae'r gwasanaeth 'dan ni'n gweithio oddi fewn iddo yn rhwystro ni rhag darparu hynny mewn ffordd 'dan ni eisiau - ac weithiau, mewn ffordd 'dan ni'n cysidro sydd yn ddiogel."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Dr Meleri Evans fod ei gwaith yn mynd yn anoddach oherwydd y "rhwystrau" sy'n bodoli yn y system

Wrth lansio eu hymgyrch Achubwch Ein Meddygfeydd, mae'r BMA yn dweud fod nifer y meddygfeydd teulu yng Nghymru wedi gostwng 18% dros y 10 mlynedd ddiwethaf, o 470 i 386.

Mae nifer cyfatebol y meddygon teulu llawn-amser 456 yn is (21.7%), o 1,901 i 1,445.

Yn y cyfamser, mae nifer y cleifion sydd wedi'u cofrestru mewn meddygfeydd wedi cynyddu 93,317 (2.9%).

'Pwysau'n cynyddu o ddydd i ddydd'

Dywedodd Dr Ian Harris, dirprwy gadeirydd pwyllgor y BMA yng Nghymru, wrth BBC Cymru, ei fod yn teimlo fod "meddygfeydd ar y dibyn".

"Ry'n ni'n gweld y pwysau'n cynyddu o ddydd i ddydd," meddai.

"Ni'n becso os na bydd gweithredu yn digwydd nawr bydd y sefyllfa lot yn waeth, neu bydd mwy o feddygfeydd yn cau dros y blynyddoedd nesa'.

"Ry'n ni eisiau gweld buddsoddiad yn nyfodol meddygfeydd teulu.

"Achos dros y blynyddoedd diwetha' ry'n ni 'di gweld lleihad yn y canran sy'n cael ei wario gan y gwasanaeth iechyd ar feddygfeydd, ac mae hynny'n dod mas nawr.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Dr Ian Harris yn poeni y bydd y sefyllfa'n gwaethygu os nad yw Llywodraeth Cymru'n gwneud rhywbeth

"Dwi ddim yn credu bod lot o ddewis gan Lywodraeth Cymru.

"Os mae'r meddygfeydd teulu'n cwympo, bydd y gwasanaeth iechyd yn cwympo.

"Fydd 'na ddim gwasanaeth iechyd os na 'dyn ni'n gwneud rhywbeth yn gyflym."

Mewn llythyr at weinidog iechyd Cymru, Eluned Morgan, mae’r BMA yn galw am fwy o gyllid i feddygfeydd teulu, ac uchafswm o gleifion y gall meddygon teulu ddelio’n rhesymol â nhw yn ystod diwrnod gwaith.

Llywodraeth yn 'cymryd camau'

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod yn "cymryd camau i leddfu'r pwysau ar feddygon teulu", a'u bod yn "gwerthfawrogi'r gwaith maen nhw - a phob staff arall yn y meddygfeydd - yn ei wneud pob dydd".

Yn ogystal â chyflwyno gwasanaeth 111, maen nhw wedi ehangu'r gwasanaethau mae fferyllfeydd cymunedol yn gallu cynnig.

Maen nhw hefyd yn credu bydd cytundebau newydd i feddygon teulu yn "helpu i leihau gwaith papur, gan ryddhau mwy o amser i weld cleifion".