Hylif afliw yn cael ei ryddhau i Afon Cleddau Wen

Mae ymgyrchwyr afonydd yn Sir Benfro yn galw am weithredu brys gan y rheoleiddiwr Cyfoeth Naturiol Cymru, wedi rhybuddion bod Afon Cleddau Wen yn wynebu "trychineb ecolegol" oherwydd effaith llygredd.

Mae lluniau sydd wedi'u casglu ers diwedd mis Mai yn dangos hylif afliw (discoloured) yn cael ei ryddhau i'r afon o ddwy bibell, a gweddillion trwchus yn cael eu gadael ar ôl ar lan yr afon.

Mae ymgyrchwyr yn dweud fod yr hylif yma wedi dod o bibell ollwng First Milk.

Mae Gail Davies-Walsh, prif weithredwr Afonydd Cymru - y corff ymbarél ar gyfer Ymddiriedolaethau Afonydd ar draws Cymru - wedi disgrifio'r lluniau fel rhai "ysgytwol".

Yn ôl Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) maen nhw'n ymwybodol o "bryderon niferus" am lygredd, ac maen nhw'n ymchwilio.

Dywedodd First Milk, sy'n gweithredu un o'r ddwy bibell, bod "gollyngiad afliw" wedi'i ryddhau i'r afon o'u safle ym Mhont Fadlen am gyfnod byr yn gynharach y mis hwn, ond ei fod o fewn y terfynau a osodwyd gan CNC.