Rhybudd y bydd llygredd afon yn creu 'trychineb ecolegol'

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Mae ymgyrchwyr wedi ffilmio hylif afliw yn cael ei ryddhau i'r afon o bibell gwastraff First Milk

Mae ymgyrchwyr afonydd yn Sir Benfro yn galw am weithredu brys gan y rheoleiddiwr Cyfoeth Naturiol Cymru, wedi rhybuddion bod Afon Cleddau Wen yn wynebu "trychineb ecolegol" oherwydd effaith llygredd.

Mae lluniau sydd wedi'u casglu ers diwedd mis Mai yn dangos hylif afliw (discoloured) yn cael ei ryddhau i'r afon o ddwy bibell, a gweddillion trwchus yn cael eu gadael ar ôl ar lan yr afon.

Mae ymgyrchwyr yn dweud fod yr hylif yma wedi dod o bibell ollwng First Milk.

Mae Gail Davies-Walsh, prif weithredwr Afonydd Cymru - y corff ymbarél ar gyfer Ymddiriedolaethau Afonydd ar draws Cymru - wedi disgrifio'r lluniau fel rhai "ysgytwol".

Yn ôl Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) maen nhw'n ymwybodol o "bryderon niferus" am lygredd, ac maen nhw'n ymchwilio.

Dywedodd First Milk, sy'n gweithredu un o'r ddwy bibell, bod "gollyngiad afliw" wedi'i ryddhau i'r afon o'u safle ym Mhont Fadlen am gyfnod byr yn gynharach y mis hwn, ond ei fod o fewn y terfynau a osodwyd gan CNC.

'Cynnyrch tebyg i laeth'

Ond mae ymgyrchwyr yn anghytuno â'r honiad mai digwyddiad ynysig oedd hwn.

Mae Dŵr Cymru'n dweud bod eu cyfleuster trin gwastraff ym Mhont Fadlen "wedi profi problemau gweithredol dros dro" ar ôl i "gynnyrch tebyg i laeth, nad oedd wedi'i awdurdodi" gael ei roi yn y rhwydwaith carthffosiaeth.

Maen nhw'n dweud bod y mater bellach wedi'i ddatrys, ond eu bod yn ymchwilio i'r ffynhonnell.

Disgrifiad o’r llun,

"Mae nifer y pysgod wedi gostwng yn sylweddol ac mae'r adar wedi diflannu," meddai Simon Walters

Wedi byw ger y Cleddau Wen ar hyd ei oes, dechreuodd Simon Walters ddogfennu achosion o'r hylif afliw yn cael ei ryddhau dros yr wythnosau diwethaf oherwydd ei bryderon cynyddol.

Mae un o'r pibellau gollwng ar safle Fortune's Frolic wedi'i gysylltu â hufenfa gaws First Milk yn Hwlffordd.

Mae'r bibell arall wedi'i chysylltu â gwaith trin dŵr gwastraff lleol Dŵr Cymru.

'Digwydd ers misoedd'

Mae Mr Walters yn honni bod yr afon yn wynebu trychineb, gan ddweud ei fod "wedi ei weld yn dirywio dros y blynyddoedd".

"Mae nifer y pysgod wedi gostwng yn sylweddol ac mae'r adar wedi diflannu," meddai.

"Mae'r [gollyngiad o'r] bibell garthffosiaeth yn gallu bod yn dywyll a llwyd iawn ac yn amrywio o ran faint ohono sydd yno.

"Mae pibell laeth First Milk wedi bod â llif llawn am ddwy, tair, neu bedair awr ar y tro gyda hylif brown, ac mae hyn wedi bod yn digwydd ers misoedd."

Mae Mr Walters yn honni bod y gollyngiadau o bibell First Milk wedi "gorchuddio" glannau'r afon gyda "mousse coch neu oren" sy'n troi'n ddu wrth iddo sychu.

Disgrifiad o’r llun,

Mae honiadau fod y gollyngiadau o bibell First Milk wedi "gorchuddio" glannau'r afon gyda "mousse coch neu oren"

Dywedodd First Milk eu bod wedi cael "problem fach" gyda'u cyfleuster, a arweiniodd at "ollyngiad afliw" yn cael ei ryddhau i'r afon am "amser byr", ond bod hynny "wedi'i ddatrys yn sydyn".

Mae'r cwmni'n honni nad oedd y digwyddiad "yn torri amodau'r caniatâd gollwng a osodwyd gan CNC, nac yn cynrychioli risg sylweddol i'r amgylchedd".

Pryderon ers tro

Dywedodd prif weithredwr Afonydd Cymru, Gail Davies-Walsh, ei bod yn cytuno ag ymgyrchwyr bod Afon Cleddau Wen ar drothwy trychineb, a galwodd ar CNC i adolygu caniatâd ar gyfer gollyngiadau i'r afon.

Honnodd hefyd bod tystiolaeth ers tro am ragor o bryderon am y safle First Milk.

"Cafodd ei godi'n wreiddiol am fethiannau maetholion yn 2005/06," meddai Ms Davies-Walsh.

"Cafodd mesurau eu cymryd yn erbyn y rheiny.

"Yn fwy diweddar, mae tystiolaeth glir o fethiant yn erbyn rhai o'r amodau ar eu trwyddedau ac mae hynny wedi bod dros nifer o flynyddoedd."

Disgrifiad o’r llun,

Dywed Gail Davies-Walsh fod angen "rheoleiddio a gorfodi llymach" gan CNC

Mewn ymateb, dywedodd First Milk eu bod wedi cynnal "adolygiad gweithredol llawn" yn ddiweddar o'u gweithfeydd, a'u bod wedi penodi "gweithredwr newydd i redeg a rheoli'r cyfleuster" ar y cyd â'r cwmni.

Ychwanegodd eu bod yn gwneud buddsoddiad pellach yn y safle dan sylw.

Mae Ms Davies-Walsh yn dweud fod angen "rheoleiddio a gorfodi llymach" gan CNC.

Mae defnyddwyr eraill yr afon hefyd yn bryderus am gyflwr y Cleddau Wen.

Disgrifiad o’r llun,

"Dy'n ni heb weld unrhyw bysgod ffres yn dod ers tua mis," medd Stephen Esmond

Dywedodd Stephen Esmond, ysgrifennydd y clwb yng Nghymdeithas Pysgotwyr Sir Benfro: "Mae niferoedd brithyllod y môr wedi disgyn yn sylweddol.

"Cafodd fy mhryderon eu codi ychydig wythnosau yn ôl ynglŷn â faint o stwff sy'n dod allan o fan hyn.

"Rwy'n meddwl bod y pysgod yn dod i fyny yma ac yn blasu'r deunydd budr hwn ac wedyn ddim yn gwneud eu ffordd i fyny'r afon.

"Dy'n ni heb weld unrhyw bysgod ffres yn dod ers tua mis.

"Dylai fod llawer iawn o ddraenogiaid y môr (bass) yma, ond y cyfan ry'n ni wedi'i weld yw mullet.

"Maen nhw'n hoffi'r math hwn o amgylchedd ond does dim bass."

'Gormod o ffosfforws a nitrogen'

Dywedodd Mr Esmond fod aelodaeth y clwb yn gostwng am fod llai o bysgod yn yr ardal, ac y dylai CNC wneud mwy i blismona afonydd.

"[Mae angen] cael CNC i lawr yma yn amlach i gadw llygad arno," meddai.

"Cael y bobl leol sydd wrth law fel y gallant fod yma. Gall gollyngiad trwm bara am dair neu bedair awr. Does dim bywyd yma."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Ric Cooper wedi bod yn ceisio cael mwy o ddata am gyflwr y Cleddau Wen

Mae Ric Cooper, gwyddonydd o bentref Hook, yn caiacio a phadlfyrddio ar yr afon, ac mae wedi bod yn casglu gwybodaeth am ansawdd dŵr y Cleddau Wen.

"Rwyf wedi bod yn gofyn i CNC ac asiantaethau eraill am ddata dadansoddol ar yr afon," meddai.

"Mae'n eithaf amlwg bod y lefelau nitrogen yn yr afon - y lefelau nitrad - yn llawer uwch nag y dylent fod.

"Mae'r afon yn hypernutrified, sy'n golygu bod gormod o ffosfforws a nitrogen ynddi.

"Rydych chi'n cael gordyfiant o algâu sy'n amsugno'r ocsigen a'r maetholion yma, ac rydych chi'n cael gostyngiad yn yr ocsigen sydd ar gael i'r pysgod a'r infertebratau yn y mwd, gyda'r holl sgil-effeithiau."

Ym mis Ionawr 2021, daeth adroddiad ar gyfer CNC i'r casgliad bod y Cleddau Wen yn methu ei thargedau ffosfforws "ym mhob corff dŵr" a gafodd ei asesu.

Argymhellwyd y dylid lansio prosiect arbennig ar afonydd Cleddau i leihau lefelau ffosfforws yn yr afon, gan ganolbwyntio'n benodol ar y Cleddau Wen.