Cynorthwywyr dysgu: Treialu cynllun 'arloesol' yng Ngwynedd
Mae cynorthwyydd dosbarth wedi dweud bod ei chyflog yn "amharchus", wrth annog cyd-aelodau ei hundeb llafur i bleidleisio o blaid streicio.
Gweithio yn Ysgol Uwchradd Aberteifi mae Rebecca Ring.
Fel cynrychiolydd undeb Unsain, mae'n galw am godiad cyflog o 12.7% i gynorthwywyr dosbarth.
Y cynnig sydd wedi ei wneud eisoes yw codiad cyflog o £1,925, sydd gyfystyr â 9% o gynnydd i'r gweithwyr sy'n ennill y cyflogau isaf.
Mae pryder fod nifer yn gadael y maes, gydag ansicrwydd o ran oriau gwaith yn ffactor hefyd.
Dywedodd cyfarwyddwr addysg Cyngor Gwynedd, Garem Jackson, eu bod nhw yn cynnal cynllun peilot er mwyn ceisio gael cytundebau canolog ar draws adrannau'r cyngor.
"Dwi'n credu bod o'n syniad eitha' arloesol," meddai ar Dros Frecwast BBC Radio Cymru.
"Yn aml iawn 'da ni'n gweld bod ein cyfeillion ni yng ngwasanaethau plant ac oedolion yn y cyngor yn rhwydo'r un pwll, am yr un bobl, sydd â'r un sgiliau, a bron yn cystadlu yn erbyn ein gilydd o ran y broblem recriwtio.
"Felly be 'dan ni'n edrych i 'neud ydy edrych os fedrwn ni gael cytundeb sydd â'i chraidd hi yn y dosbarth, ond yn edrych wedyn ar gyfer gwasanaethau gofal, cynlluniau chwarae dros yr haf, ac yn y blaen."