'Digalon' bod cyflogau staff addysg mor isel

Rebecca Ring
Disgrifiad o’r llun,

Mae Rebecca Ring yn ennill £10.60 yr awr fel cynorthwyydd dosbarth - sydd ond 18c yr awr yn fwy na'r isafswm cyflog

  • Cyhoeddwyd

Mae cynorthwyydd dosbarth sy'n fam i bedwar o blant wedi dweud bod ei chyflog yn "amharchus", wrth annog cyd-aelodau ei hundeb llafur i bleidleisio o blaid streicio.

Gweithio yn Ysgol Uwchradd Aberteifi mae Rebecca Ring.

Fel cynrychiolydd undeb Unsain, mae'n galw am godiad cyflog o 12.7% i gynorthwywyr dosbarth a rhai gweithwyr eraill sydd yn cael eu cyflogi gan awdurdodau lleol - fel gofalwyr a rhai sy'n casglu sbwriel.

Y cynnig sydd wedi ei wneud eisoes yw codiad cyflog o £1,925, sydd gyfystyr â 9% o gynnydd i'r gweithwyr sy'n ennill y cyflogau isaf.

'Pwysau cynyddol'

Mae Mrs Ring wedi cymhwyso fel gweithiwr cymdeithasol, ond dywedodd wrth raglen Newyddion S4C ei bod wedi mynd i weithio yn y sector addysg tra'n magu ei phlant.

Ar hyn o bryd mae'n ennill £10.60 yr awr - 18c yr awr yn fwy na'r isafswm cyflog.

Yn ôl ei chytundeb, mae disgwyl iddi weithio 30 awr yr wythnos.

Mae'n dweud ei bod yn aml yn gweithio oriau hirach, ac er bod ei chyflog yn cael ei dalu drwy'r flwyddyn, dyw hi ddim yn derbyn tâl am y gwyliau ysgol.

Ffynhonnell y llun, Thinkstock
Disgrifiad o’r llun,

Mae mwy o blant bellach angen help yn yr ystafell ddosbarth ers y pandemig, yn ôl Mrs Ring

Fel cynorthwyydd dosbarth, mae ei dyletswyddau'n cynnwys cefnogi'r staff dysgu a disgyblion sy'n cael trafferth dilyn gwersi, yn enwedig y rheiny ag anghenion o ran eu hymddygiad neu anghenion dysgu ychwanegol.

Ers i'r pandemig daro, mae'n dweud bod y pwysau arni hi ac eraill yn yr un rôl wedi cynyddu'n fawr.

"Ry'n ni'n gweld mwy a mwy o ddisgyblion yn dod drwy'r drysau sydd angen rhagor o gefnogaeth yn yr ystafell ddosbarth," meddai.

"Mewn dosbarth o 30, lle byddai arfer bod un cynorthwyydd yn y dosbarth, mae angen dau neu dri erbyn hyn.

"Ry'n ni'n ceisio delio gyda hynny ein hunain."

'Mae'r mab yn ennill mwy'

Pan ofynnwyd iddi a oedd galw am streic yn ddoeth mewn cyfnod economaidd ac ariannol heriol, pwysleisiodd ei bod hi'n teimlo bod y cynnig presennol yn annheg.

"Gofyn ydyn ni am dâl teg fel pawb arall, a beth ry'n ni'n teimlo ry'n ni'n ei haeddu," meddai.

"Ry'n ni'n gofyn iddyn nhw ystyried yr holl ffactorau - y gwaith ry'n ni'n ei wneud, y sgiliau sydd gyda ni, ac wedyn ceisio gosod tâl i adlewyrchu hynny.

"Byddai hynny'n meddwl ein bod ni ddim yn stryglo i gwrdd â'r gost o ambell drît i'r teulu, neu hyd yn oed gwisg ysgol - pethau sylfaenol fel 'na."

Ffynhonnell y llun, Alamy
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Rebecca Ring fod staff yn ennill mwy mewn archfarchnadoedd nac ysgolion

Cyfeiriodd hefyd at gyflog ei mab 17 oed, sy'n ennill bron i bunt yn fwy na hi fesul awr yn gweithio mewn archfarchnad leol tra'n astudio ar gyfer arholiadau Safon Uwch.

"Wrth gwrs, rwy'n falch drosto fe, mae'n gwneud yn dda i'w hunan," meddai Mrs Ring.

"Ond mae'n gwneud i ni sylweddoli ein bod ni ddim yn ennill cyflog teg am y roles ry'n ni'n gwneud, yn enwedig pan fod mwy o bwysau arnon ni.

"Dwi ddim yn dweud bod dim sgil i'r hyn mae e'n gwneud, ond dwi'n teimlo bod y gwaith ry'n ni'n ei wneud mewn ystafelloedd dosbarth angen mwy o sgil ac yn fwy heriol.

"Rydyn ni gyd yn derbyn hyfforddiant, mae'n rhaid i ni ddiweddaru'r hyfforddiant yna bob blwyddyn, ac ry'n ni wastad yn ceisio ffeindio sgiliau newydd i gefnogi'r disgyblion dan ein gofal hefyd.

"Mae darganfod ein bod ni'n ennill llai na gweithiwr mewn archfarchnad yn fy ngwneud i'n ddigalon braidd."

Bydd cyfnod pleidleisio undeb Unsain ar streicio ai peidio yn dod i ben ddydd Mawrth, 4 Gorffennaf.

Doedd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ddim am wneud sylw.

Pynciau cysylltiedig