Dewi Llwyd: 'Mae 'na ddiwedd yn dod i bob cyfnod'

Yn paratoi i gyflwyno ei bennod olaf o Hawl i Holi nos Iau, mae Dewi Llwyd wedi bod yn edrych yn ôl ar ei 15 mlynedd wrth lyw y rhaglen banel.

Ar ôl 21 mlynedd yn arwain y drafodaeth ar Pawb a'i Farn, fe benderfynodd roi'r gorau iddi yn 2019.

Ond nawr hefyd yn pasio'r awenau ar beth sydd mewn sawl ffordd y fersiwn radio o'r rhaglen honno, mae'n argyhoeddedig fod sawl gwahaniaeth.

"Mae'n teimlo'n chwithig iawn, yn naturiol, ar ôl pymtheg mlynedd," meddai wrth Cymru Fyw tra'n paratoi i gyflwyno rhifyn nos Iau o Lansannan.

"Ond mae 'na ddiwedd yn dod i bob cyfnod yn does? A nes i benderfynu fod pymtheg mlynedd yn ddigon a bod hi'n bryd i roi'r awenau i'r genhedlaeth nesa'."

Ond tra roedd Pawb a'i Farn yn ymweld â "neuaddau gwych" a "chanolfannau hamdden mawrion," roedd naws Hawl i Holi yn bwrpasol wahanol.

"Ro'n i wastad yn argyhoeddedig fod 'na le i gael rhaglen oedd yn mynd at y cynulleidfaoedd llai mewn pentrefi a neuaddau cymunedol," meddai.

"Roedd yn golygu wedyn bod ni'n gallu mynd i lefydd fel Llansannan, neu Gaerwedros neu Landeilo - lle bynnag - ac mae hynny wedi bod yn bleser mae'n rhaid i mi ddweud."

Y panelwyr yng Nghanolfan Bro Aled, Llansannan nos Iau fydd cyn-Brif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, AS Plaid Cymru Hywel Williams, cyn-Gyfarwyddwr Eisteddfod yr Urdd Sian Eirian a'r Cynghorydd Mostyn Jones.

Bydd y rhaglen yn cael ei darlledu ar Radio Cymru nos Iau am 18:00 ac ar gael wedyn ar BBC Sounds.