Dewi Llwyd: 'Dwi'n teimlo'n gryf am rai pethau'

  • Cyhoeddwyd
Dewi Llwyd yn stiwdio Pawb a'i FarnFfynhonnell y llun, Mei Lewis/Mission Photographic
Disgrifiad o’r llun,

Mae Dewi Llwyd yn rhoi'r gorau i gyflwyno Pawb a'i Farn ar ôl 21 mlynedd

Ar ôl 21 mlynedd yn arwain y drafodaeth ar raglen banel Pawb a'i Farn, mae'r cyflwynydd Dewi Llwyd yn rhoi'r gorau iddi gan gyflwyno ei raglen olaf yn y gyfres nos Lun, 2 Rhagfyr.

Wrth edrych nôl dros ei gyfnod wrth y llyw - cyfnod a ddechreuodd gyda sefydlu Cynulliad Cymru ac sy'n gorffen gyda rhwyg trafodaethau Brexit - mae'n rhannu ei atgofion gyda BBC Cymru Fyw.

"Dwi'n teimlo bod fy nghyfnod i ar y rhaglen wedi dod i ben ac mae'n bryd trosglwyddo i'r genhedlaeth nesaf," meddai Dewi a fydd yn parhau i gyflwyno Hawl i Holi a Dros Ginio ar Radio Cymru.

"Ac efallai bod hwn yn gyfnod cystal a'r un i wneud hynny achos mae'n etholiad cyffredinol tyngedfennol ac fe fydd na gyfnod newydd yn dechrau.

"Mae 21 mlynedd yn ddigon o amser! Ac rydw i ar fin cwblhau 40 mlynedd yn darlledu felly ro'n i'n gweld hwnna fel carreg filltir da er mwyn newid cyfeiriad ychydig."

Ewrop ar 'waelod yr agenda' cyn 2014

Felly beth yw'r pynciau sydd wedi bod o bwys i'r gynulleidfa yng Nghymru dros ei gyfnod gyda Pawb a'i Farn?

"Mae hwnna'n un o'r pethau sy'n fy nharo i'n fwy na dim - cyn tua 2014 doedd Ewrop byth yn destun trafod, doedd o byth yn un o'r cwestiynau oedd yn cael eu codi gan y gynulleidfa, doedd ganddyn nhw ddim diddordeb o gwbl yn y pwnc.

"Dwi ddim yn cofio ei drafod o gwbl yn y 10 i 15 mlynedd cyntaf, ac wedyn yn sydyn iawn mi gawson ni'r addewid o refferendwm [gan David Cameron] a dyna'r pwnc sydd yn y pum mlynedd diwethaf wedi tra-arglwyddiaethu.

"Ond yr eironi mawr ydi bod na 10 i 15 mlynedd pan oedd neb eisiau trafod Ewrop, roedd ar waelod yr agenda bob amser a phob math o bynciau eraill yn cael eu trafod; boed yn addysg, yr iaith, iechyd, trafnidiaeth, de a gogledd."

Disgrifiad,

Cyflwynodd Dewi Llwyd ei raglen Pawb a'i Farn gyntaf yn 1998, a hynny o Amlwch

Cyfnod datganoli

Roedd Dewi yn dilyn yn ôl troed Huw Edwards a chyn hynny, Gwilym Owen, pan ddechreuodd wrth y llyw ar Pawb a'i Farn yn 1998, flwyddyn wedi'r refferendwm datganoli.

Ydy trosglwyddo grym i Gaerdydd wedi newid y drafodaeth yng Nghymru?

"Yn y dechrau roedd 'na ddadlau tanllyd iawn am ddatganoli a beth oedd ei ffurf, ac i ba raddau roedd na gefnogaeth, wrth gwrs roedd y refferendwm a'r canlyniad wedi bod yn agos iawn," meddai.

"Ond wrth i'r Cynulliad ddod i rym roedd mwy o deimlad o gonsensws ar y panel ac ymhlith y gynulleidfa. Doedden nhw ddim yn flynyddoedd mor danllyd; roedd 'na deimlad bod pobl yn chwilio am y tir canol.

"Yna wrth gwrs mi gawson ni Brexit a'r holl ddadlau am Ewrop oedd yn golygu bod tymheredd a gwres y dadlau wedi codi yn aruthrol tua diwedd y cyfnod wrth inni fynd i faes gwahanol iawn.

"Mae pobl wedi gwylltio'n lân a dweud y lleiaf. Dwi'n meddwl mai'r un fwyaf tanllyd ges i erioed oedd y noson cyn pleidlais y refferendwm ar Ewrop. Roedden ni yng Nghaerdydd gyda phanel o dri o blaid, a thri yn erbyn gyda chynulleidfa oedd hefyd wedi ei rhannu'n deg i'r naill ochr a'r llall.

"Mi aeth hi'n flêr iawn a'r gynulleidfa'n gweiddi.

"Daeth rhywun allan o'r gynulleidfa i ofyn imi daflu rhywun arall allan o'r stiwdio, oedd yn gwbl amhosib imi ei wneud; roedd Dafydd Wigley ar y panel ac roedden ni'n poeni am ei iechyd roedd o wedi cynhyrfu i'r fath raddau.

"Ond ynghanol y gynulleidfa roedd un o'r bobl sydd wedi llwyddo i gynddeiriogi pobl ar hyd y blynyddoedd sef y Parchedig Ddoctor Felix Aubel: mae ganddo fo'r ddawn arbennig o blesio rhai ond o wylltio llawer yn ogystal."

Y panelwyr mwyaf lliwgar

Ymhlith y panelwyr sydd wedi bod fwyaf lliwgar meddai Dewi mae tri Cheidwadwr, oedd yn llwyddo i wylltio'r gynulleidfa, sef y diweddar Elwyn Jones ("perfformiwr heb ei ail fel panelydd"), y diweddar Rod Richards, a Felix Aubel yn y blynyddoedd diwethaf.

"Mae'n rhaid enwi Hywel Teifi Edwards hefyd oedd yn banelydd tan gamp ac mi roedd o'n gwybod sut i wylltio pobl hefyd," meddai.

"Ond petawn i'n gorfod enwi un panelydd mi fuaswn i'n dweud y Dr John Davies, yr hanesydd John Bwlchllan; roedd o mor huawdl, mor wybodus, ond doedd rhywun hefyd byth yn sicr i ba gyfeiriad roedd o'n mynd i fynd.

"Roeddech chi'n meddwl eich bod chi'n gwybod beth oedd ei farn o ond mi fyddai o'n gallu mynd i gyfeiriad cwbl annisgwyl ac mi roedd y gynulleidfa wrth eu boddau yn gwrando arno fo'n traethu ac mae colled enfawr ar ei ôl o."

Ffynhonnell y llun, keith morris
Disgrifiad o’r llun,

Dewi gyda thîm cynhyrchu Pawb a'i Farn

Cyfarfod y gynulleidfa yn 'fraint ac anrhydedd'

Ond y fraint fwyaf mae Dewi wedi ei chael gyda'r rhaglen dros y blynyddoedd ydy cwrdd â'r gynulleidfa a dysgu beth sy'n eu poeni nhw.

"Mynd i gyfarfod cynulleidfaoedd ledled Cymru oedd y peth mwyaf pleserus am wneud Pawb a'i Farn," meddai.

"Mae mynd i gyfarfod y gynulleidfa yn fraint ac mae'n anrhydedd hefyd i geisio eu hannog nhw i gyfrannu ac i drafod a thraethu. Maen nhw wedi bod yn barod i wneud hynny ar hyd y blynyddoedd ac mae'n rhaid i mi gyfaddef bod hwnna wedi bod yn bleser digamsyniol, efallai'n un o uchafbwyntiau fy ngyrfa i gyd.

"Mi fyddai'n gweld eu colli nhw."

Mynd at y gynulleidfa

Mae'r ffaith fod S4C yn mynd allan at y gynulleidfa ac yn rhoi llwyfan iddi yn bwysig, meddai Dewi.

"Ar un adeg roedd 'na ddwsin, pymtheg, o raglenni mewn blwyddyn, roedd hwnna'n gyfnod da ond erbyn hyn rydyn ni lawr i ryw hanner dwsin sydd, mae rhywun yn teimlo, efallai ddim yn ddigon.

"Ar y llaw arall mae'r rhaglen yn dal i fynd, wedyn dyna'r peth i'w groesawu."

Lle mae'r ardaloedd mwyaf awyddus i drafod?

Mae na ambell ardal yn fwy parod i gyfrannu a thrafod nag eraill, meddai Dewi, gydag Ynys Môn "wastad yn ardal dda i fynd iddi" lle mae pynciau llosg fel ynni niwclear a dyfodol yr Wylfa yn rhannu'r gynulleidfa ac yn annog trafodaeth.

"Mae na ardaloedd ardderchog eraill i lawr yng nghyffiniau Caerfyrddin, Llanelli, Rhydaman, Abertawe: ardaloedd yr hen fröydd diwydiannol, lle roedd undebaeth yn gryf o bosib lle roedden nhw'n awyddus i gyfrannu'n gyhoeddus ac wedi hen arfer a gwneud hynny.

"Mae'n braf mynd i'r ardaloedd amaethyddol i glywed barn a chwynion yr amaethwyr hefyd. Roeddan ni'n gwneud hynny mor aml ar un adeg fel y sgwennodd rhywun 'a'i Pawb a'i Ffarm ydi enw'r rhaglen yma?'"

Ydy hi'n hawdd peidio dangos ochr?

Fel cyflwynydd, mae'n rhaid i Dewi Llwyd aros yn ddi-duedd wrth drafod pynciau sy'n gallu bod yn ddadleuol iawn - sut mae'n gwneud hynny os oes ganddo farn bersonol gref am y pwnc dan sylw?

Disgrifiad o’r llun,

Dewi gyda chyn-bennaeth newyddion a materion cyfoes BBC Cymru a chyflwynydd cyntaf Pawb a'i Farn, Gwilym Owen, a fu farw ym mis Gorffennaf 2019

"Dwi yn teimlo'n gryf ynglŷn â rhai pethau ond dwi'n cyflwyno'r rhaglen hon ers 21 mlynedd, ac yn cyflwyno newyddion am bron iawn 40 mlynedd, ac mae'n grefft mae rhywun wedi ei meistroli ar hyd y blynyddoedd," meddai.

"Os ga' i ddefnyddio'r enw Llwyd, mae rhywun yn gweld y llwydni yn aml iawn yn hytrach na'r du neu'r gwyn, mae rhywun yn gweld y tir canol a gwybod sut yn union mae tynnu'r gorau allan o'r naill ochr a'r llall a chanfod gwendidau yn eu dadleuon nhw.

Y Gymraeg yn 'hollbwysig'

"Wrth gwrs mae gan rhywun farn, er enghraifft ar y Gymraeg a'i dyfodol hi. Mae hynny'n greiddiol i beth mae rhywun wedi'i wneud, yn darlledu am 40 mlynedd, felly mae'r Gymraeg yn naturiol yn hollbwysig i mi a dwi'n siŵr fod y gynulleidfa yn cymryd hynny yn gwbl ganiataol.

"Ond o ran y pynciau gwleidyddol, mae rywun wedi dysgu i droedio'r tir canol, er efallai wrth fynd yn hŷn fod rhywun yn dyheu am y dyddiau hynny lle mae rhywun wedi rhoi heibio gwaith a chael rhoi barn ar ambell bwnc sydd o bosib yn cythruddo.

"Ac wrth fynd yn hŷn hefyd, efallai bod rhywun yn mynd ychydig bach yn fwy diamynedd? Ond wedi dweud hynny dwi wedi bod ar delerau arbennig o dda efo gwleidyddion o bob plaid ar hyd y blynyddoedd."

Hefyd o ddiddordeb: