Parc ynni: 'Dan ni ddim isio sbwylio'r tirwedd yma'
Mae'r cadarnhad gan gwmni Bute Energy nad ydyn nhw am fwrw ymlaen gyda chynlluniau i osod 20 o dyrbinau gwynt "anferth" mewn parc ynni yn Sir Conwy wedi ei groesawu gan wrthwynebwyr.
Roedd yna bryderon ynghylch y posibilrwydd o godi tyrbinau hyd at 250m o daldra ger pentrefi Llangernyw, Betws-yn-Rhos a Llanfair Talhaearn.
Aeth un o'r trigolion cyn belled â chymharu'r sefyllfa â hanes Tryweryn.
Dywed y cwmni eu bod wedi tynnu'n cynllun yn ei ôl oherwydd "ystod o ffactorau" yn ymwneud â'r safle yn dilyn asesiadau diweddar, gan gynnwys cyfyngiadau mynediad, ecolegol a thechnegol.
Fe fu Clerc Cyngor Cymuned Betws-yn-Rhos a Llanelian-yn-Rhos, Tom Jones yn ymateb i'r cyhoeddiad ar raglen Dros Frecwast.