Pryder y byddai parc ynni newydd 'fel y Tryweryn nesaf'
- Cyhoeddwyd
Mae trigolion rhai o bentrefi Sir Conwy wedi disgrifio cynlluniau posib i godi parc ynni newydd fel "y Tryweryn nesa'".
Mae ymgyrchwyr yn honni fod cwmni Bute Energy yn bwriadu codi 20 o dyrbinau gwynt "anferth" ger pentrefi Llangernyw, Betws yn Rhos a Llanfairtalhaearn.
Mewn datganiad, dywedodd y cwmni eu bod mewn cyfnod asesu ar hyn o bryd ac nad oedd unrhyw gynlluniau swyddogol eto ar gyfer safle Moelfre Uchaf.
Cafodd cyfarfod agored ei gynnal yn Llangernyw'r wythnos hon lle gafodd trigolion lleol gyfle i drafod a lleisio eu pryder am effeithiau parc ynni o'r fath ar y gymuned.
Tyrbinau 'lle mae eu hangen'
Mae Non Davies yn byw wrth ymyl un o'r caeau lle allai tyrbinau cael eu codi.
Dywedodd fod pryder y gallai'r tyrbinau fod hyd at 250 metr o daldra, ac y bydden nhw o fewn 700 metr i gartrefi.
"Ma' maint a graddfa y safle yn gwbl, gwbl tu hwnt i unrhyw reswm," dywedodd.
"Ma' nhw di bod wrthi yn ers mis Medi 2020 yn g'neud ymholiada', yn g'neud asesiada', ac os ydy o'n newyddion mor dda pam nad oedd modd cynnwys pawb yn y penderfyniadau cynnar rheiny?"
Wrth sôn am darged Llywodraeth Cymru i gyrraedd net sero erbyn 2050, dywedodd Ms Davies bod y targedau "yn mynd i gael eu hateb gan y ddarpariaeth ar y môr".
"Does dim o'u hangen nhw [tyrbinau gwynt Moelfre Uchaf], 'dan ni'n diwallu'r targedau beth bynnag," meddai.
"[Mae'n] newyddion da i bawb, rhoi nhw lle mae eu hangen nhw."
Mae Ms Davies yn gweld tebygrwydd rhwng y cynlluniau hyn a hanes Tryweryn.
"O gofio Tryweryn, 'dan ni'n cofio hynny'n arbennig eleni, ac mae'n sicr i mi pan fod yr abwyd ariannol yn ddigon uchel a'r concern am gymuned ac unigolion yn ddigon isel, mae'r atgofion am Dryweryn yn pylu," dywedodd.
"Dwi'n gweld bod 'na benderfyniada' anodd i'w g'neud, penderfyniadau busnes, ac mae o wrth gwrs yn fater iddyn nhw [tirfeddianwyr lleol].
"Fedrai'm bod yn gyfrifol am be' ma' nhw'n 'neud, ond yn sicr mae o ar draul eraill."
'Ar delerau'r gymuned leol'
Dywedodd Llyr Gruffydd o Blaid Cymru, sy'n aelod o'r Senedd dros y Gogledd, bod rhaid ystyried pob cais yn unigol.
"Dwi'n gefnogol o ynni adnewyddadwy," meddai.
"Dwi'n teimlo bod ynni gwynt ar y môr yn cynnig gwell datrysiad i ni o safbwynt scale a safbwynt gweithredu sydyn.
"Wrth gwrs, ma' gwynt ar y tir hefyd yn rhan o'r ateb. Ond waeth ni beidio dweud codwch felinau gwynt yn bob man.
"Mae'n rhaid cael criteria cryf a sicrhau bod hynny'n digwydd yn y modd pwrpasol, ac hefyd yn digwydd ar delerau'r gymuned leol."
Bute Energy 'yn asesu'
Mewn datganiad dywedodd Bute Energy: "Rydym yng nghyfnod asesu a dichonoldeb Parc Ynni arfaethedig Moelfre, a allai gynhyrchu trydan gwyrdd, glân i wresogi a phweru cartrefi, busnesau a thrafnidiaeth ledled Cymru i gyd.
"Bydd hefyd yn cynorthwyo targed Llywodraeth Cymru i drydan fod 100% yn adnewyddadwy erbyn 2035.
"Unwaith y bydd hyn wedi'i gwblhau, byddwn yn ymgysylltu â'r gymuned leol, gan gymryd eu safbwyntiau nhw i ystyriaeth wrth i ni barhau i esblygu dyluniad y Parc Ynni arfaethedig.
"Byddwn hefyd yn gofyn i bobl leol am awgrymiadau ynglŷn â sut y gellid gwario unrhyw Gronfa Budd Cymunedol - os caiff y prosiect ei gydsynio a'i adeiladu.
"Dydyn ni ddim yn disgwyl i'r ymgynghoriad hwn fod cyn hydref 2023, a byddwn yn diweddaru pobl leol yn rheolaidd."
Ychwanegodd Bute Energy bod safle'r parc ynni arfaethedig yn rhan o barth gafodd ei ddynodi gan Lywodraeth Cymru ar gyfer datblygu ffermydd gwynt.
"Rydyn ni'n cydnabod fod gan rai pobl farnau gwahanol am seilwaith newydd," meddai llefarydd.
"Fodd bynnag, mae ymchwil annibynnol yn dangos fod 83% o bobl yng Ngorllewin Clwyd yn cefnogi ynni gwynt ar y tir, a bod 88% o bobl yn cefnogi prosiectau adnewyddadwy yn eu hardal.
"Yn Bute Energy, rydym wedi'n hymrwymo i wneud ein rhan mewn ymateb i'r Argyfwng Hinsawdd a'r argyfwng costau byw, drwy bweru Cymru ag ynni gwyrdd, glân, a grymuso'n cymunedau drwy fuddsoddiad, swyddi a sgiliau."
Doedd Llywodraeth Cymru ddim am wneud sylw ar hyn o bryd.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Chwefror 2023
- Cyhoeddwyd21 Chwefror 2023
- Cyhoeddwyd9 Chwefror 2023