Taith feicio i nodi Gŵyl Gyhoeddi Eisteddfod yr Urdd 2024

Bydd criw o'r canolbarth ar daith feiciau dros y dyddiau nesaf i ddathlu'r ffaith bod Eisteddfod yr Urdd yn dod i Sir Drefaldwyn y flwyddyn nesaf.

Mae diwedd y daith yn cyd-fynd gyda'r Ŵyl Gyhoeddi sydd yn digwydd yn Y Drenewydd ddydd Sadwrn.

Bedwyr Fychan yw cadeirydd Pwyllgor Gwaith Eisteddfod yr Urdd Maldwyn 2024, ac mae'n un o'r rheiny fydd yn cymryd rhan yn y daith feiciau.

"Anghofiwch y Tour de France wythnos yma - hon ydi'r daith!" meddai ar raglen Dros Frecwast BBC Radio Cymru.

"Mae'n gyfle i ddathlu'r Gymraeg ym Maldwyn ac yn creu bwrlwm yn y gymuned."