Meifod fydd cartref Eisteddfod yr Urdd yn 2024

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Arwydd croeso Eisteddfod yr Urdd

Mae Urdd Gobaith Cymru wedi cadarnhau mai ym Meifod y bydd Eisteddfod yr Urdd yn cael ei chynnal pan fydd hi'n ymweld â Maldwyn y flwyddyn nesaf.

Fe fydd Eisteddfod yr Urdd Maldwyn 2024 cael ei chynnal ar gaeau Fferm Mathrafal - cartref yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2003 a 2015.

Dywed y trefnwyr eu bod yn "edrych ymlaen i ymweld â Maldwyn am y tro cyntaf ers 1988", a bod gwirfoddolwyr ac aelodau "wrthi'n brysur yn paratoi i'n croesawu i'r ardal".

Roedd yn fwriad yn wreiddiol i gynnal yr ŵyl ieuenctid ym Maldwyn yn 2022, cyn i'r pandemig orfodi'r mudiad i beidio â chynnal gŵyl dorfol am ddwy flynedd.

"'Dan ni'n gyffrous iawn bod y cyhoeddiad wedi ei 'neud," dywedodd cadeirydd pwyllgor gwaith lleol yr Eisteddfod, Bedwyr Fychan ar raglen Dros Frecwast.

"Yn Y Drenewydd oedd eisteddfod 1988 a 'dan ni'n falch iawn o gael ei chroesawu'n ôl i Faldwyn yn 2024, er bod hi ddwy flynedd yn hwyrach nag oeddan ni wedi meddwl yn wreiddiol."

'Dewis unfrydol'

Pan gyhoeddwyd yn 2019 bod yr ŵyl am ddychwelyd i Faldwyn, dywedodd yr Urdd mai'r bwriad oedd lleoli'r maes yn nhref Machynlleth.

Mae swyddogion yr Urdd, meddai Mr Fychan, wedi "cerdded milltiroedd... yn cerdded rownd gwahanol gwahanol safleoedd yn y sir" a chynnal "trafodaethau eang".

Ffynhonnell y llun, Eisteddfod yr Urdd
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Eisteddfod yr Urdd llynedd yn Ninbych ddenu 118,000 o ymwelwyr - mwy nag erioed o'r blaen, medd y trefnwyr

Dywedodd bod rhaid ystyried sawl ffactor yn cynnwys "maint y safle, ystyriaethau o ran traffig a llifogydd, popeth o fynediad i gerbydau i wifrau uwchben y tiroedd" cyn llunio rhestr fer o leoliadau addas.

"Yn y cynnig oedd gerbron y pwyllgor gwaith neithiwr, safle Mathrafal a Meifod gafodd ei ddewis yn unfrydol," meddai.

Mae'r safle ym Meifod, medd ychwanegodd, yn un "cyfarwydd".

"'Dan ni'n gw'bod bod o'n safle addas, ac yn safle braf iawn a 'dan ni'n hyderus bydd hwn hefyd yn safle fydd yn gweithio i ni ar gyfer Maldwyn 2024."

Codi arian

Roedd gwaith y gwahanol bwyllgorau lleol eisoes wedi dechrau cyn y pandemig.

"Mae lot o'r gwaith hynny wedi dod i ben bellach," medd Mr Fychan.

"Mae lot o'r ffocws rŵan... yn amlwg ar y safle, a dipyn o bwyslais rŵan ar y gweithgaredda' codi arian."

Yn ôl y trefnwyr mae'r eisteddfod ieuenctid yn cyfrannu £6m i'r economi leol, gan ddenu tua 90,000 i'r maes.

Bydd Eisteddfod yr Urdd 2024 yn cael ei chynnal rhwng 27 Mai a 1 Mehefin y flwyddyn nesaf.

Mae'r ŵyl eleni yn cael ei chynnal yn Llanymddyfri, Sir Gaerfyrddin rhwng 29 Mai a 3 Mehefin.

Pynciau cysylltiedig