Noson Lawen ar YouTube: 'Pwysig peidio colli'r caneuon'

Mae fideos o'r rhaglen adloniant Noson Lawen bellach wedi cael eu gwylio 10 miliwn o weithiau ar sianel YouTube.

Mae'r gyfres, a ddathlodd ei phen-blwydd yn 40 y llynedd, yn un o raglenni mwyaf poblogaidd S4C, a hi yw'r rhaglen adloniant ysgafn sydd wedi rhedeg hiraf ar deledu yn Ewrop.

Dywedodd cynhyrchydd y gyfres, Olwen Meredydd o Cwmni Da, eu bod nhw "wedi gwironi" gyda'r llwyddiant.

"Oeddan ni jyst yn teimlo bod 'na gymaint o stôr o ganeuon gwych yn cael eu recordio bob blwyddyn, mi oedden ni isio cartref bach iddyn nhw," meddai wrth siarad ar raglen Dros Frecwast BBC Radio Cymru.

Mae'n dweud bod ganddyn nhw bellach 1,400 o fideos ar eu sianel YouTube.

"Mae'n bwysig bod y caneuon 'ma ddim yn cael eu colli achos mae 'na rai ohonyn nhw, dy'n nhw erioed wedi cael eu recordio o'r blaen, a dyna'r unig le i'w gweld a'u clywed nhw."