Noson Lawen yn denu 10 miliwn o wylwyr ar YouTube

  • Cyhoeddwyd
Dafydd IwanFfynhonnell y llun, Cwmni Da
Disgrifiad o’r llun,

Mae anthem Dafydd Iwan, Yma o Hyd, wedi cael ei gwylio 350,000 o weiythiau ar y sianel YouTube Noson Lawen

Mae fideos o'r rhaglen adloniant Noson Lawen bellach wedi cael eu gwylio 10 miliwn o weithiau ar sianel YouTube.

Mae'r gyfres, a ddathlodd ei phen-blwydd yn 40 y llynedd, yn un o raglenni mwyaf poblogaidd S4C, a hi yw'r rhaglen adloniant ysgafn sydd wedi rhedeg hiraf ar deledu yn Ewrop.

Dim ond un rhaglen arall o'r fath sydd wedi rhedeg am fwy o amser na hi drwy'r byd, sef cyfres Silvio Santos, sydd wedi'i darlledu'n barhaus yn Brasil ers 1963.

Y cwmni teledu o Gaernarfon, Cwmni Da, sydd bellach yn gyfrifol am y gyfres.

Disgrifiad,

Olweyn Meredydd: "Mae'n bwysig bod y caneuon 'ma ddim yn cael eu colli"

Dywedodd y cynhyrchydd, Olwen Meredydd: "Mae pob rhaglen Noson Lawen yn cynnwys naw cân ac mae'r rhain i gyd yn cael eu rhoi ar sianel YouTube, felly bydd pob cyfres yn gweld tua 100 o ganeuon yn cael eu hychwanegu.

"Mae llawer o'r rhain gan gantorion a grwpiau addawol, ac rydym yn teimlo ei fod yn helpu i ddatblygu eu talent a rhoi cynulleidfa ehangach iddynt.

"Mae sianel YouTube Noson Lawen hefyd yn chwarae rhan hanfodol yn strategaeth S4C i estyn allan a dod o hyd i gynulleidfaoedd newydd ar lwyfan digidol. Mae'n un o'r sianeli YouTube Cymraeg mwyaf poblogaidd yn y byd!

Ffynhonnell y llun, Cwmni Da
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r gyfres wedi rhoi hwb cynnar i yrfaoedd nifer o artistiaid, yn cynnwys Katherine Jenkins

"Mae'n amlwg o'r sylwadau ar y sianel YouTube bod llawer o'r bobl sy'n gwylio'r fideos yn ddi-Gymraeg, yn byw y tu allan i Gymru, ac sydd ddim yn wylwyr cyson ar S4C."

Wrth siarad ar raglen Dros Frecwast BBC Radio Cymru, ychwanegodd: "Oeddan ni jyst yn teimlo bod 'na gymaint o stôr o ganeuon gwych yn cael eu recordio bob blwyddyn, mi oedden ni isio cartref bach iddyn nhw.

"Mae'n bwysig bod y caneuon 'ma ddim yn cael eu colli achos mae 'na rai ohonyn nhw, dy'n nhw erioed wedi cael eu recordio o'r blaen, a dyna'r unig le i'w gweld a'u clywed nhw."

Y mwyaf poblogaidd

  • Fideo mwyaf poblogaidd y sianel yw Dafydd Iwan yn canu ei anthem enwog, Yma o Hyd, sydd wedi cael ei gwylio 350,000 o weithiau;

  • Y fideo cyntaf a bostiwyd ar y sianel oedd y tenor operatig Aled Hall o Bencader, Sir Gaerfyrddin yn canu'r gân, Noson Fel Hon;

  • Y gân sydd wedi ei threfnu amlaf gan artistiaid amrywiol yw Anfonaf Angel, gan Robat Arwyn a Hywel Gwynfryn, sydd wedi cael ei pherfformio droeon dros y blynyddoedd;

  • Fersiwn y tenor Rhys Meirion yw'r mwyaf adnabyddus o bell ffordd, ac mae wedi cael ei gwylio dros 250,000 o weithiau;

  • Ymhlith y ffefrynnau eraill ar y sianel YouTube mae Y Weddi, Ysbryd y Nos a'r gân serch enwog deimladwy, Myfanwy.