Pêl-droed: Agwedd at yr iaith 'ddim yn ffiltro lawr'

Mae rhai o glybiau pêl-droed y gogledd wedi dweud eu bod nhw'n "rhwystredig" nad oes mwy o Gymraeg yn y ffordd mae'r gêm yn cael ei rhedeg ar lawr gwlad.

Er bod canmoliaeth i agweddau tuag at yr iaith ar frig Cymdeithas Bêl-droed Cymru, meddai cadeirydd un clwb, dyw hynny ddim yn treiddio i'r un graddau i'r cymdeithasau rhanbarthol.

Daw hynny wedi i CPD Talysarn gael gwybod yn ddiweddar ei bod hi'n bosib mai nhw fyddai'n gorfod talu am gyfieithydd, os oedden nhw eisiau gwrandawiad disgyblu yn y Gymraeg.

Dywedodd Cymdeithas Bêl-droed Arfordir y Gogledd y gallen nhw godi "costau" ar glybiau sy'n mynd o flaen panel, ond nad oedden nhw'n gwahaniaethu ar sail iaith.

"Mae o'n rhwystredig ar sawl lefel," meddai Alun Fôn Williams, cadeirydd clwb Talysarn.

"Dwi'n teimlo bod ganddon ni'r hawl mewn achos fel hyn i siarad Cymraeg, i allu cyflwyno'n hachos yn ein hiaith gyntaf."