Diffyg Cymraeg ym mhêl-droed llawr gwlad yn 'rhwystredig'

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Alun Williams: "Rhwystredig" nad yw'n bosib cael gwrandawiad Cymraeg

Mae rhai o glybiau pêl-droed y gogledd wedi dweud eu bod nhw'n "rhwystredig" nad oes mwy o Gymraeg yn y ffordd mae'r gêm yn cael ei rhedeg ar lawr gwlad.

Er bod canmoliaeth i agweddau tuag at yr iaith ar frig Cymdeithas Bêl-droed Cymru, meddai cadeirydd un clwb, dyw hynny ddim yn treiddio i'r un graddau i'r cymdeithasau rhanbarthol.

Daw hynny wedi i CPD Talysarn gael gwybod yn ddiweddar ei bod hi'n bosib mai nhw fyddai'n gorfod talu am gyfieithydd, os oedden nhw eisiau gwrandawiad disgyblu yn y Gymraeg.

Dywedodd Cymdeithas Bêl-droed Arfordir y Gogledd y gallen nhw godi "costau" ar glybiau sy'n mynd o flaen panel, ond nad oedden nhw chwaith yn gwahaniaethu ar sail iaith.

Pan gafodd CPD Talysarn eu galw i wrandawiad disgyblu diweddar, fe gawson nhw wybod nad oedd y swyddogion oedd yn siarad Cymraeg ar gael ar yr achlysur hwnnw.

Ond fe ddywedodd Cymdeithas Bêl-droed Arfordir y Gogledd mai'r clwb allai fod yn gyfrifol am gostau cyfieithu os oedden nhw eisiau achos yn y Gymraeg, yn dibynnu ar y canlyniad.

"Mae o'n rhwystredig ar sawl lefel," meddai Alun Fôn Williams, cadeirydd y clwb.

"Dwi'n teimlo bod ganddon ni'r hawl mewn achos fel hyn i siarad Cymraeg, i allu cyflwyno'n hachos yn ein hiaith gyntaf."

'Pam mai nhw ddylai dalu?'

Mae'n teimlo nad yw agweddau positif tuag at yr iaith o fewn Cymdeithas Bêl-droed Cymru wastad yn cael eu hadlewyrchu ar lawr gwlad.

"Mae 'na ymarfer da iawn yn digwydd yn fan 'na, arweiniad yn cael ei roi," meddai. "Ond dydy o ddim i weld i fi'n treiddio lawr i'r cymdeithasau rhanbarthol sy'n darparu a rheoli pêl-droed i ni yng ngogledd Cymru."

Disgrifiad o’r llun,

Dydy Sian Gwenllian ddim yn ei gweld yn deg y gallai'r gost ddisgyn ar y clwb

Cytuno gyda safbwynt y clwb mae'r Aelod Senedd lleol, Sian Gwenllian.

"Mae gan bobl yr hawl i siarad yn y Gymraeg ym mhob sefyllfa, ac mae'n biti bod 'na ddadl unwaith eto ynglŷn â hynny," meddai.

"Dwi'n meddwl bod angen dod â datrysiad sydd yn golygu fod 'na ddim cost yn mynd ar y clwb chwaith.

"Yn ddefrydol dylai fod nhw'n gallu cael gwrandawiad drwy gyfrwng y Gymraeg wrth gwrs, ond os dydy hynny just ddim yn bosib, pam mai nhw ddylai dalu?"

Mae CPD Talysarn eisoes wedi bod mewn cyswllt gyda Chomisiynydd y Gymraeg ar y mater, sydd wedi eu cynghori nhw nad oes dyletswydd cyfreithiol â sefydliadau fel Cymdeithas Bêl-droed Arfordir y Gogledd i ddarparu gwasanaethau Cymraeg.

Ond dywedodd llefarydd ar ran y Comisiynydd eu bod nhw "am weld cynnydd yn y defnydd o'r Gymraeg gan sefydliadau ar draws pob sector".

"Mae cynnig gwasanaeth da yng Nghymru erbyn hyn yn golygu cynnig gwasanaeth yn Gymraeg," meddai.

"Mae croeso i fudiadau sydd eisiau datblygu eu darpariaeth Gymraeg gysylltu â ni ar unrhyw adeg. Croeso i unrhyw un ddod atom hefyd i rannu eu pryderon am ddefnydd sefydliadau o'r Gymraeg."

Er hynny mae Alun Fôn Williams yn gweld y sefyllfa'n un "rhwystredig".

Disgrifiad o’r llun,

Mae clybiau pêl-droed lleol yn hanfodol wrth gynnig cyfleoedd i bobl gymdeithasu yn y Gymraeg yn naturiol, ychwanegodd Alun Fôn Williams

"Pan mae gennoch chi gymdeithas bêl-droed fel na sy'n rhannol weithredu'n lled-gyhoeddus ar ran clybiau sydd mewn ffordd yn gyrff a chlybiau cymunedol, mae o'n rhwystredig bod ni ddim yn gallu dylanwadu mwy ar gymdeithasau o'r fath i fod yn gweithredu'n gwbl ddwyieithiog," meddai.

"Mae angen digwydd yn naturiol, yn lle bod chdi'n teimlo'n gas dros ofyn a chael dy 'neud i deimlo bod y ffaith bod ti'n gofyn yn mynd i fod yn anffafriol."

Cytuno mae Iwan Williams, ysgrifennydd CPD Llanerchymedd, sy'n dweud bod ethos Gymraeg yn "hynod o bwysig" i'w glwb ef ac eraill yn yr ardal.

"Mae lot o glybiau ochrau yma yn Gymraeg, ond dwi'n euog o'r peth fy hun weithiau, mae'n haws just delio efo pethau yn yr iaith Saesneg," meddai.

"Ond 'swn i'n licio meddwl bysan ni'n gallu 'neud o'n fwy aml - ti'm isio bodloni ar Saesneg i bob dim."

Mae angen i'r awdurdodau gofio, meddai Alun Fôn Williams, bod sefydliadau fel clybiau pêl-droed lleol yn hanfodol wrth gynnig cyfleoedd i bobl gymdeithasu yn y Gymraeg yn naturiol.

"Pan ti'n meddwl am bêl-droed ac unrhyw chwaraeon mae o'n ffordd gwbl, gwbl anffurfiol o ddod â phobl efo'r un diddordeb i mewn i un lle," meddai.

"Maen nhw'n cynnig cymaint i gymunedau, o ochr iechyd a lles, ond mae 'na lot o werth cudd iddo fo o ran defnydd yr iaith, yn enwedig y rhan yma o ogledd Cymru."

'Ddim yn gwahaniaethu'

Dywedodd Cymdeithas Bêl-droed Arfordir y Gogledd nad oedden nhw am drafod yr achos disgyblu penodol, ond fod y clwb "yn ymwybodol" pam nad oedd modd cynnig gwrandawiad Cymraeg ar yr achlysur hwn.

"Os bydd unrhyw gyhuddiad disgyblu yn cael ei ganfod yn erbyn parti gall y Panel Disgyblu ystyried gosod cosb, sancsiwn, gorchymyn neu ddyfarniad, a all, neu beidio, gynnwys costau ar y parti perthnasol," meddai llefarydd.

Dywedodd y byddan nhw'n ystyried yr ohebiaeth maen nhw wedi ei dderbyn gan Gomisiynydd y Gymraeg, ond nad ydyn nhw'n "gwahaniaethu... ar sail tarddiad ethnig, rhyw, iaith, crefydd, gwleidyddiaeth, oedran neu unrhyw reswm arall".

Ychwanegodd: "Nid yw'r Gymdeithas yn ymwybodol o unrhyw bryderon a fynegwyd gan nifer o glybiau yn ardal Gwynedd a Môn ynglyn â diffyg darpariaeth Gymraeg gan y Gymdeithas."