Safon Uwch: Dathlu'r canlyniadau a'r camau nesaf

Ddydd Iau fe wnaeth miloedd o bobl ifanc dderbyn canlyniadau Safon Uwch, a hynny wedi cyfnod heriol yn yr ysgol yn sgil y pandemig.

Fe wnaeth y graddau uchaf ar gyfer Lefel A yng Nghymru ostwng am yr ail flwyddyn yn olynol, mae'r canlyniadau'n parhau i fod yn uwch na chyn y pandemig.

Roedd canran y graddau A ac A* yn 34% eleni, o'i gymharu gyda 40.9% yn 2022.

Ond roedd 'na ddigon o ddathlu yn yr ysgolion a'r colegau fore Iau, a'r dysgwyr yn frwd i rannu i ble y byddan nhw'n mynd nesaf.