Canlyniadau Safon Uwch: Gostyngiad yn y graddau A ac A*
- Cyhoeddwyd
Mae'r graddau uchaf ar gyfer Lefel A yng Nghymru wedi gostwng am yr ail flwyddyn yn olynol, ond mae canlyniadau'n parhau i fod yn uwch na chyn y pandemig.
Roedd canran y graddau A ac A* yn 34% eleni, o'i gymharu gyda 40.9% yn 2022.
Dywedodd Cymwysterau Cymru, sy'n goruchwylio'r arholiadau, fod rhai ffiniau graddau wedi cael eu gosod yn is nag y bydden nhw cyn 2020 er mwyn cydnabod y tarfu fuodd ar ddisgyblion yn ystod Covid.
Dywedodd y Gweinidog Addysg Jeremy Miles fod cymorth ychwanegol wedi gwneud arholiadau eleni'n "deg".
Cafodd canlyniadau AS, a chymwysterau Lefel 3 galwedigaethol a thechnegol gan gynnwys BTEC, hefyd eu cyhoeddi.
'Nôl i normal' erbyn 2024
Y gyfradd basio cyffredinol ar gyfer Lefel A oedd 97.5%, gydag 13.5% yn llwyddo i gael gradd A*.
Roedd llai o fesurau mewn lle ers cyfnod Covid i helpu disgyblion eleni, ond cafodd rhywfaint o wybodaeth ei roi iddyn nhw cyn yr arholiadau ac roedd y graddio'n parhau i fod yn fwy hael.
Mae hyn yn wahanol i Loegr, ble maen nhw wedi dychwelyd i'r drefn o raddio disgyblion fel oedden nhw yn 2019.
Dywedodd Cymwysterau Cymru bod y canlyniadau eleni tua hanner ffordd rhwng canlyniadau 2019 a 2022.
"Eleni rydyn ni wedi cymryd y cam nesaf ar ein siwrne yn ôl tuag at drefniadau aseseu cyn y pandemig, gyda rhywfaint o gefnogaeth mewn lle ar gyfer dysgwyr wrth i ni symud yn ôl at ein prosesau arferol," meddai prif weithredwr Cymwysterau Cymru, Philip Blaker.
Wrth siarad ar raglen Dros Frecwast BBC Radio Cymru dywedodd Laurel Davies, Pennaeth Ysgol Ystalyfera Bro Dur, ei bod hi'n credu ei fod yn syniad da bod disgyblion wedi parhau i gael ychydig o gymorth ychwanegol eleni.
"Mae'n rhaid i ni gyraedd realiti y system arholiadau lle mae plant yn gorfod mynd trwy'r broses o eistedd arholiadau," meddai.
"Ond hefyd mae'n rhaid i ni sicrhau bod... ni'n cydnabod yr heriau mae'r bobl ifanc yma wedi wynebu.
"Ac wrth gwrs y peth arall yw, dyma'r rhai cyntaf sydd wedi gorfod eistedd arholiadau fel rhan o arholiadau BTEC. Felly mae hwnna hefyd yn effeithio ar y graddau terfynol."
Un o'r rheiny oedd yn aros am ei chanlyniad BTEC mewn iechyd a gofal cymdeithasol yng Ngholeg Gwent, Glyn Ebwy oedd Laura Lewis, 18, o Frynmawr.
Fe gafodd hi e-bost gan UCAS yn ei llongyfarch am gael lle ar gwrs nyrsio iechyd meddwl ym Mhrifysgol De Cymru, er nad oedd hi wedi gallu gweld ei chanlyniadau eto ar wefan y coleg.
'Annheg cymharu'
Yn 2019 fe wnaeth 27% o ddisgyblion gael graddau A ac A* yn eu Lefel A, gyda hynny'n cynyddu i 48.3% yn 2021 pan gafodd arholiadau eu canslo a graddau eu rhoi ar sail asesiadau athrawon.
Roedd canlyniadau ychydig yn is y llynedd, ac yn is eto eleni.
Y bwriad yw i ddychwelyd i'r broses cyn y pandemig yn 2024.
Un o'r rheiny gafodd ganlyniadau gwell na'r disgwyl oedd Alys Watkins, 18, o Ferthyr Tydfil, sy'n ddisgybl yn Ysgol Gyfun Rhydywaun, Aberdâr.
Roedd hi wedi methu â chael lle mewn sawl prifysgol yn ystod y broses ymgeisio, ond ddydd Iau fe dderbyniodd 5 A* mewn Bioleg, Mathemateg, Cemeg, Drama a'r Fagloriaeth Gymraeg, a bydd hi nawr yn astudio meddyginiaeth ym Mhrifysgol Caerdydd.
"Mae wedi bod yn flwyddyn anodd iawn," meddai. "Cefais fy ngwrthod o bob prifysgol heblaw am Gaerdydd, oherwydd wnes i ddim cystal ag y byddwn i wedi hoffi yn y prawf UCAT.
"O'n i angen 3 A heddiw i gael lle ym Mhrifysgol Caerdydd, o'n i'n bryderus iawn am gael hwnna.
"Ond i gael 5 A*, o'dd e'n sioc enfawr. Rydw i mor hapus, dyw e ddim yn teimlo'n real.
"Mae heb suddo mewn eto - ni allaf stopio crynu. Mae'n teimlo fy mod i'n breuddwydio."
Ond dywedodd Laura Doel, ysgrifennydd cenedlaethol undeb penaethiaid NAHT Cymru, nad oedd hi'n beth doedd gwneud cymhariaethau yn dilyn "un o'r cyfnodau mwyaf heriol i addysg".
"I'r mwyafrif helaeth o ddisgyblion Lefel A yn enwedig, dyma'r canlyniadau cyntaf erioed maen nhw wedi ei gael o eistedd arholiadau ffurfiol, ar ôl methu allan ar y profiad TGAU traddodiadol oherwydd y pandemig," meddai.
"Er ein bod ni'n gweld canlyniadau gwahanol eleni, ddylai hyn ddim cymryd i ffwrdd o gwbl o lwyddiannau'r disgyblion, ac mae unrhyw un sy'n meddwl bod cymharu'r data flwyddyn i flwyddyn yn beth defnyddiol angen ailfeddwl.
"Mae'n anghynorthwyol ac yn digalonni'r myfyrwyr hynny, eu hathrawon a'u teuluoedd. Mae profiad ysgol y bobl ifanc yma wedi cael ei darfu, ond maen nhw wedi rhagori."
Mathemateg yn boblogaidd
Wrth longyfarch disgyblion ar eu canlyniadau dywedodd y Gweinidog Addysg, Jeremy Miles, ei fod yn "benllanw blynyddoedd o waith caled" iddynt.
"Rydym yn gwybod bod y cyfnod yma wedi bod yn heriol," meddai.
"Ein nod wrth ddarparu cefnogaeth ychwanegol eleni oedd gwneud yn siŵr fod yr arholiadau'n deg, er gwaetha'r heriau rydych wedi'u hwynebu.
"I unrhyw un nad ydych wedi cael y canlyniadau yr oeddech eisiau, neu sy'n ansicr o'ch camau nesaf, peidiwch â bod yn rhy siomedig, a pheidiwch â rhoi amser caled i chi'ch hun.
Mae digon o opsiynau o'ch blaen, gan gynnwys mynd i brifysgol trwy'r system glirio, prentisiaeth neu efallai ddechrau eich busnes eich hun. Mae Gyrfa Cymru yn fan cychwyn gwych er mwyn cael cyngor, a bydd eich ysgol neu goleg yno i'ch cefnogi hefyd."
Ychwanegodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford: "Llongyfarchiadau i bawb sy'n derbyn canlyniadau heddiw, a diolch enfawr i'r holl athrawon a'r rhieni am eich holl gefnogaeth.
"Rydych chi wedi gweithio mor galed, a beth bynnag rydych chi'n dewis gwneud nesaf, dymunaf bob lwc i chi am y dyfodol."
Cafwyd 32,960 o geisiadau arholiad Lefel A yng Nghymru eleni - 7.2% yn is na 2022, ond yn gyson gyda 2019.
Mathemateg sy'n parhau i fod y pwnc mwyaf poblogaidd.
Yng Nghymru roedd y gyfradd basio tua'r un peth ar gyfer bechgyn a merched, gyda bechgyn yn sicrhau cyfran ychydig yn uwch o raddau A*, ond merched yn perfformio'n well o gynnwys graddau A hefyd.
Proses clirio
Er bydd nifer yn dathlu mae'n siŵr bydd eraill wedi'i siomi ac yn wynebu penderfyniadau anodd, gan gynnwys a ydyn nhw'n mynd i ymgeisio am brifysgol drwy broses clirio.
Mae disgyblion yn aml yn ymgeisio trwy glirio os nad ydynt yn derbyn y canlyniadau roeddent yn disgwyl er mwyn cael lle yn eu prifysgol dewis cyntaf, neu os maent yn perfformio'n well na'r disgwyl ac am newid eu dewis.
Mae canllaw gan UCAS yn annog myfyrwyr i weld y broses fel "cyfle i chi ddechrau eto". Fodd bynnag, mae'r rhan fwyaf o lefydd gwag yn llenwi'n gyflym.
Os ydych yn methu cyrraedd eich canlyniadau disgwyliedig o ychydig farciau'n unig mae gwefan gyrfaoedd graddedig Prospects, yn awgrymu eich bod yn siarad gyda'ch prifysgol dewis cyntaf yn gyntaf.
"Tra nad oes rheidrwydd arnynt i ailystyried eu penderfyniad... efallai y gwnant wrando os ydych yn cynllunio i apelio yn erbyn eich canlyniadau," medd llefarydd.
Os ydych yn penderfynu mynd trwy broses glirio yna mi fydd y cyrsiau gyda llefydd gwag i'w gweld ar UCAS - fel arfer mae dros 30,000 ar gael.
Mae'n rhaid i chi gysylltu efo'r prifysgolion rydych yn cynllunio rhoi cais mewn ar eu cyfer yn gyntaf, i ddarganfod a fyddan nhw'n cynnig lle i chi, cyn i chi gadarnhau eich dewis ar UCAS.
Dywedodd Teleri Lewis, Rheolwr Gweithrediadau'r Adran Farchnata, Prifysgol Aberystwyth, fod "bwrlwm" wedi bod eisoes fore Iau wrth i ddarpar-fyfyrwyr gysylltu i geisio cael lle ar gyrsiau.
"Yn amlwg mae yna ansicrwydd," meddai. "Maen nhw wedi derbyn eu canlyniadau a falle ddim 'di cael yr hyn ro'n nhw'n gobeithio, ond fi'n teimlo bod nhw'n ymwybodol iawn o'r opsiwn glirio.
"Ni 'di cael pobl yn holi cwestiynau da, maen nhw'n gwybod y wybodaeth ni'n holi amdano, maen nhw wedi paratoi cryn dipyn o flaen llaw.
"Ni yma i gefnogi a chynnig cymaint o gymorth â phosib. Ni hefyd yn cynnig, dros y penwythnos, cyfle i ddod i ymweld â'r brifysgol, so mae hynny hefyd yn gyfle bach sbesial ac extra i gadw pawb yn hapus a dangos bod 'na opsiynau arall ar gael, ac i beidio panico."
Dadansoddiad Bethan Lewis, Gohebydd Addysg a Theulu
"Dair blynedd ar ôl i arholiadau gael eu canslo am y tro cyntaf yn sgil Covid-19, mae effaith y pandemig i'w weld o hyd ar drefn canlyniadau Cymru.
"Yn ôl y disgwyl mae'r graddau Cymru-gyfan yn is na llynedd fel rhan o'r siwrne 'nôl at lefelau 2019.
"Ond mae 'na rai mesurau wedi bod mewn lle eleni eto i geisio rhoi rhywfaint o hwb i fyfyrwyr.
"Y polisi yn Lloegr oedd symud 'nôl yn gynt i'r sefyllfa cyn y pandemig.
"Ac mae 'na ddadlau dros beth sydd fwyaf "teg", yn enwedig pan mae'r graddau yma yn gallu dylanwadu ar lefydd prifysgol neu swyddi.
"Y bwriad yw gollwng y mesurau ychwanegol yng Nghymru flwyddyn nesaf, ond mae'r drafodaeth am degwch yn debygol o barhau wrth i'r to nesaf wneud eu arholiadau nhw."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Awst 2023
- Cyhoeddwyd16 Awst 2023
- Cyhoeddwyd19 Mai 2023