Marwolaeth R Alun Evans yn 'golled i'r genedl'
Mae'r darlledwr, awdur a gweinidog gyda'r Annibynwyr, y Parchedig Ddr R Alun Evans wedi marw yn 86 oed.
Mewn teyrnged iddo dywedodd y darlledwr Beti George ei fod wedi bod yn fraint gweithio gydag ef.
Dywedodd ei fod yn "ddarlledwr mor wych... yn gallu troi ei law at unrhywbeth".
"Doedd neb tebyg iddo fe a gweud y gwir," meddai. "Roedd e 'di cael ei eni i ddarlledu."
Ychwanegodd ei fod yn ffrind da, gan ddweud: "O'n i yn gallu troi ato fe ac oedd e'n barod i estyn llaw pan oedd angen.
"Mae'r golled yn fawr i'r genedl."