Y darlledwr R Alun Evans wedi marw yn 86 oed
- Cyhoeddwyd
Mae'r darlledwr, awdur a gweinidog gyda'r Annibynwyr, y Parchedig Ddr R Alun Evans wedi marw yn 86 oed.
Fe ddaeth yn un o wynebau a lleisiau mwyaf cyfarwydd y byd darlledu Cymraeg fel cyflwynydd y rhaglen gylchgrawn ddyddiol Heddiw yn y 1970au.
Mewn gyrfa amrywiol gyda BBC Cymru, ef oedd sylwebydd pêl-droed cyntaf y gorfforaeth yn y Gymraeg.
Daeth yn ffigwr amlwg o fewn llywodraethiant yr Eisteddfod Genedlaethol gan ymgymryd â sawl rôl allweddol, cyn cael ei anrhydeddu'n Gymrawd am oes o wasanaeth i'r Brifwyl.
Bu hefyd yn Llywydd ar yr Annibynwyr Cymraeg.
'Torri tir newydd'
Cafodd Robert Alun Evans ei eni a'i fagu, yn fab y mans, ym mhentref Llanbrynmair yn yr hen Sir Drefaldwyn, a'i addysgu yn Nyffryn Dyfi cyn graddio yn y Gymraeg ym Mhrifysgol Bangor.
Fe ddilynodd ei dad i'r weinidogaeth a chael ei ordeinio'n weinidog yng Nghapel Seion, Llandysul yn 1961.
Ond roedd eisoes wedi dechrau ymddiddori mewn darlledu ac fe ymunodd ag Adran Grefydd BBC Cymru yn 1964.
Ymunodd â rhaglen Heddiw yn 1969, gan ohebu arni a'i chyflwyno tan 1979. Yn ystod y cyfnod hwn bu hefyd yn sylwebu ar seremonïau'r Eisteddfod ac yn sylwebu ar gemau pêl-droed.
Fe dorrodd dir newydd trwy sylwebu yn Gymraeg ar gêm ragbrofol Cwpan y Byd rhwng Cymru a'r Alban ar gae Anfield, Lerpwl yn 1977.
Fe'i dyrchafwyd wedyn yn un o reolwyr y BBC a chafodd ei benodi'n bennaeth ar ganolfan y BBC ym Mangor.
Ond daliodd ati i gyfrannu, gan gynnwys sylwebu ar briodas y Tywysog Charles a'r Fonesig Diana Spencer yn 1981.
Ar ôl ymddeol o'r byd darlledu yn 1996, fe astudiodd am radd Doethuriaeth ym Mhrifysgol Bangor, ac chael PhD yn 1999 am ei waith ar 'Dechrau a datblygu darlledu yng Ngogledd Cymru'.
Fe ddychwelodd hefyd i'r weinidogaeth, gan wasanaethu i'r Annibynwyr yng Nghaerffili a Gwaelod y Garth nes ei ymddeoliad ddiwedd 2014.
Fe gefnogodd eisteddfodau bach a mawr ar hyd ei oes.
Bu'n arweinydd llwyfan am ddegawdau, cyn dod yn aelod o Gyngor yr Eisteddfod Genedlaethol yng nghanol y 1970au, ac yn gadeirydd ar y cyngor rhwng1999 a 2001, cyn cael ei ethol yn Llywydd y Llys o 2002 tan 2005.
Ef oedd cadeirydd cyntaf Bwrdd Rheoli'r Eisteddfod, ac yn 2007, fe gafodd ei ethol yn Gymrawd - cydnabyddiaeth uchaf y Brifwyl.
Mewn teyrnged iddo, dywedodd yr Eisteddfod Genedlaethol: "Roedd R Alun Evans yn fodern ei weledigaeth, ac roedd ein sgyrsiau wastad yn gyfle i gamu'n ôl ac ystyried ei syniadau a'i farn.
"Byddwn yn colli ei anwyldeb a'i agosatrwydd hyfryd. Rydyn ni'n anfon ein cydymdeimladau dwysaf at Rhiannon, Rhys a Betsan ac yn diolch iddo am bopeth."
Dywedodd Rhuanedd Richards, Cyfarwyddwr BBC Cymru: "Roedd R Alun Evans yn ddarlledwr crefftus a chraff; yn gawr ac yn arloeswr ymhlith darlledwyr Cymru dros sawl degawd a chanddo'r gallu unigryw hwnnw i greu agosatrwydd arbennig gyda'i gynulleidfa. Fe dorrodd dir newydd mewn sawl maes yn y byd darlledu.
"Roedd yn gyflwynydd newyddion ar y rhaglen Heddiw, yn gyfrifol am sylwebaethau pêl-droed cofiadwy, yn dywysydd drwy seremonïau Eisteddfodol dirifedi ac ar raglenni addysg a chrefydd y BBC.
"Y llinyn arian trwy hyn i gyd oedd ei wybodaeth ddofn o Gymru, ei barch at y gynulleidfa Gymraeg a llais y gellir ymddiried yn llwyr ynddo.
"Byddwn ni yn y BBC yn ei gofio fel lladmerydd cadarn dros ddarlledu yn y Gogledd hefyd, ac am ei gyfraniad amhrisiadwy tuag at ddatblygiad BBC Radio Cymru.
"Roeddwn i bob amser yn gwerthfawrogi pob nodyn neu alwad ganddo yn cynnig gair o gyngor doeth, her hyd yn oed, neu anogaeth.
"Wrth i ni gydnabod ei gyfraniad helaeth, rydym hefyd yn meddwl ac yn cofio am ei deulu yn eu colled.
"Estynnwn ein cydymdeimladau dwysaf at Rhiannon ei wraig, Rhys a Betsan a'u teuluoedd a'i lu o ffrindiau."
'Darlledwr graenus'
Wrth roi teyrnged iddo ar raglen y BBC, Dros Ginio, dywedodd ei ffrind, yr Athro Derec Llwyd Morgan: "Mae'n golled er ei fod yn 86, bron yn 87 - mae marw rhywun fel hyn yn golled bob amser."
Ar wahân i'w gyfraniad i'r byd darlledu, soniodd am ei ddylanwad mewn sawl maes arall, megis golygu ac ysgrifennu llyfrau a'i wahanol swyddogaethau gyda'r Eisteddfod Genedlaethol.
"Yn y swyddi hynny fe roedd e'n arweinydd medrus ac yn berfformiwr tra chaboledig," meddai.
"I'r 'steddfotwr cyffredin, nid fel swyddog y meddyliai'r rhan fwyaf o bobl am Alun, ond fel meistr ei defodau hi.
"Cyn i'r Orsedd rai blynyddoedd yn ôl gymryd at seremoni'r Fedal Ryddiaith, Alun oedd yn ei llywio hi bron bob blwyddyn, fel y llywiai'r Daniel Owen, a mi roedd o'n gwneud popeth yn raenus, gynhesol."
Cyfeiriodd at y rhaglen boblogaidd Rhwng Gŵyl a Gwaith a oedd yn cael ei chyflwyno gan R Alun Evans ar nosweithiau Sul am flynyddoedd, a'r ffaith iddo olygu sawl cyfrol i gyd-fynd â'r gyfres.
"Mi roedd o'n ŵr o sglein, mi roedd o'n ŵr o sylwedd," meddai'r Athro Morgan.
"Roedd o'n ddyn diwylliedig. Dwi wedi sôn amdano'n weinidog, yn eisteddfotwr, fel rhywun oedd yn golygu llyfrau, ac yn ysgrifennu llyfrau, mi roedd o'n raenus eithriadol yn y pethau hynny i gyd.
"Ry'n ni'n mynd yn ôl at Heddiw pan welson ni ef ar y teledu bron bob nos o'r wythnos am ddegawd gyfan. Mi roedd o'n ddarlledwr graenus.
"Mae graen ac R Alun Evans yn briodas a fydd yn cyd-fyw yn fy nghof i am byth."
Gwelodd newid mawr yn y byd darlledu yn y cyfnod y bu ef wrthi - "er gwell mewn rhai pethau, yn yr ystyr bod S4C wedi ehangu'r modd i ni gael oriau lawer bob wythnos yn y Gymraeg.
"Ond hefyd, mewn ffordd mae'r peth wedi dirywio achos mi roedd iaith rhywun fel Alun yn iaith mor gyfoethog a graenus eto, ac idiom y Gymraeg yn gryf iawn ganddo fe, fel na welwn i eto, dwi ddim yn meddwl, y fath Gymreigrwydd mewn darlledu," ychwanegodd Yr Athro Morgan.
"Diolch iddo am gynnal y peth gyhyd."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Awst 2023
- Cyhoeddwyd30 Hydref 2015