'Efallai bod e'n amser nawr i aildrefnu cynghorau?'

Mae un arbenigwr ar gyllid llywodraeth leol wedi awgrymu ei bod hi'n bryd edrych unwaith eto ar aildrefnu cynghorau sir yng Nghymru.

Daeth sylwadau Dr Marlene Davies yn dilyn ymchwil gan y BBC sy'n dangos bod cynghorau Cymru yn disgwyl diffyg cyllid cyfunol o £395m dros y ddwy flynedd nesaf.

Mae awdurdodau lleol eisoes wedi rhybuddio y bydd y diffyg ariannol hwnnw yn eu cyllidebau yn cael effaith ddifrifol ar wasanaethau cyhoeddus.

Ond gyda'r ad-drefnu diwethaf ar lywodraeth leol yn digwydd yn 1996 - cyn datganoli - mae Dr Davies wedi awgrymu ei bod hi'n bryd ystyried a oes gormod o gynghorau yng Nghymru bellach.

"Falle bod e'n amser i ni dorri 'nôl ar y nifer o lywodraethau yma," meddai wrth siarad ar raglen Dros Frecwast BBC Radio Cymru.

"Mae'n rhaid cael safon, o gael gwasanaeth, ac hefyd falle bod e'n siawns nawr iddyn nhw ailfeddwl."