Diffyg cynghorau Cymru 'o leiaf yn £395m' dros 24 mis
- Cyhoeddwyd
Fe fydd diffyg ariannol yng nghyllidebau cynghorau yn cael effaith ddifrifol ar wasanaethau cyhoeddus, meddai awdurdodau lleol.
Yn ôl ymchwil gan y BBC mae cynghorau Cymru yn disgwyl diffyg cyllid cyfunol o leiaf £394.8m dros y ddwy flynedd nesaf.
Mae cyllidebau ysgolion dan bwysau a chost darparu gofal cymdeithasol yn codi'n aruthrol, meddai cynghorau.
Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn gweithio gyda chynghorau, ond bod mwy o bwysau ar arian cyhoeddus oherwydd chwyddiant uchel.
Fe wnaeth Shared Data Unit y BBC gynnal arolwg o gynghorau a'u cyllidebau.
O'r 22 cyngor sir yng Nghymru, dywedodd 17 bod angen iddyn nhw arbed £182m eleni, roedd 20 yn rhagweld diffyg ar y cyd o £394.8m dros ddwy flynedd ac roedd 10 wedi codi'r dreth gyngor o leiaf 5%.
Cyngor Rhondda Cynon Taf sy'n bwriadu gwneud yr arbediad mwyaf eleni sef £27.8m.
Mae'r £16.5m sydd angen ei arbed ym Mhowys yn cyfateb i £123.50 y pen yn y sir - yr arbediad mwyaf y pen gan unrhyw gyngor.
Daw'r arolwg wedi rhybuddion eraill bod gwasanaethau sy'n cael eu rhedeg gan gynghorau yn teimlo'r pwysau yn sgil toriadau, biliau ynni a chwyddiant uchel.
Dywedodd un o bwyllgorau'r Senedd fis diwethaf fod angen arian ychwanegol i gadw llyfrgelloedd a chanolfannau hamdden, dolen allanol ar agor.
Dywedodd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru fod cynghorau wedi gwario arian sy'n cael ei neilltuo ar gyfer costau annisgwyl, ond "bod hyn ddim yn gynaliadwy".
Mewn datganiad dywedodd: "Rydym hefyd yn poeni am y goblygiadau ar gyfer y flwyddyn nesaf ac yn y tymor canolig. Bydd toriadau yn cael effaith ar wasanaethau a swyddi.
"Rydym yn amcangyfrif y gallai fod bwlch yn y gyllideb o rhwng £330m a £480m y flwyddyn nesaf a fydd yn cael effaith ddifrifol ar ddarpariaeth gwasanaethau lleol, ac rydym ar hyn o bryd yn cynnal arolwg o gynghorau i gael amcangyfrifon mwy manwl gywir ac asesu'r risgiau."
'Ysgolion mewn dyled'
Wrth siarad ar raglen Dros Frecwast BBC Radio Cymru dywedodd y Cynghorydd Sir ym Mhowys ac arweinydd y Ceidwadwyr yno, Aled Davies, fod pethau'n "mynd yn galetach bob blwyddyn".
"Mae wastad wedi bod yn sefyllfa anodd ers i fi fod yn gynghorydd dros y 15 mlynedd diwethaf. Ma' wastad wedi bod diffyg yn ein cyllid ni.
"Mae'n rhaid i ni edrych ar sut mae'r llywodraeth yng Nghaerdydd yn dosbarthu y pres dros yr awdurdodau lleol.
"Pan 'dw i'n edrych ar ysgolion, yn enwedig yr ysgolion uwchradd, ma' nhw mewn dyled. Pan 'dach chi'n edrych ymlaen dros y ddwy, tair mlynedd nesa fe fyddan nhw £5m mewn dyled.
"Felly dydy hwnna ddim yn sustainable yn yr hir dymor."
Dywedodd Arweinydd Cyngor Gwynedd sy'n aelod o Blaid Cymru, Dyfrig Siencyn, fod pob gwasanaeth "yn wynebu bygythiad" yn sgil toriadau.
"'Dan ni wedi bod yn wynebu toriadau ers degawd, bob blwyddyn, 'dan ni wedi wynebu toriadau yn y gyllideb.
"Mae 'na ddewis eitha' syml pan 'dach chi'n wynebu toriadau i'ch cyllideb, un ai 'dach chi'n codi'ch incwm a'r ffordd pennaf y gallwn ni wneud hynny ydy edrych ar gynnydd yn y dreth.
"A'r ochr arall wrth gwrs ydy gwneud toriadau i wasanaethau, a ma' pob un gwasanaeth dan ryw fath o fygythiad neu ei gilydd.
"Fel arfer fydden ni yn edrych ar geisio amddiffyn y gwasanethau hynny sy'n effeithio ar ein bobl mwya bregus ni - gofal oedolion, gofal plant ac addysg - hyd y medrwn ni.
"Nid problem sut mae'r arian yn cael ei ddosbarthu ydy hwn. Ond problem maint y gacen. Dydy llywodraeth leol ddim yn cael digon o arian i ddarparu'r gwasanaethau sy'n gyfrifoldeb i ni."
A yw'n bryd adolygu'r fformiwla?
Fe wnaeth Llywodraeth Cymru roi'r bai ar chwyddiant a "chamreoli economaidd" gan Lywodraeth y DU.
Mae'r cyllid i gynghorau wedi cynyddu eleni, ond dywedodd llefarydd: "Rydym yn cydnabod bod awdurdodau lleol yn wynebu penderfyniad anodd ac rydym yn parhau i weithio'n agos gyda chynghorau i gwrdd â'r her."
Dywedodd y llywodraeth eu bod yn cytuno ar fformiwla gyda chynghorau i benderfynu faint o gyllid y mae pob un o'r 22 awdurdod yn ei gael, ond dywedodd y Ceidwadwyr Cymreig y dylid adolygu hynny.
Dywedodd llefarydd llywodraeth leol y Torïaid yn Senedd Cymru, Sam Rowlands: "Gyda Llywodraeth Lafur Cymru yn gyfrifol am ariannu ein cynghorau, mae'n rhaid gweithredu ar frys i adolygu'r fformiwla ariannu, cefnogi ein cynghorau, a rhaid i'r Lywodraeth Lafur amlinellu pa wasanaethau a chyfrifoldebau maen nhw'n disgwyl i gynghorau dorri."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Awst 2023
- Cyhoeddwyd9 Awst 2023
- Cyhoeddwyd28 Gorffennaf 2023