Lluniau CCTV o gwpl yn 'dwyn popeth' o stafell westy

Dyma'r lluniau CCTV gafodd eu rhyddhau gan westy yn Sir Benfro sy'n honni bod cwpl wedi dwyn popeth yn yr ystafell ble arhoson nhw.

Fe ddywedodd Gwesty'r Dolphin yn Noc Penfro fod gwerth tua £200 o eitemau wedi eu dwyn gan gynnwys tywelion, ffan trydan, dwy lamp, tegell, tun te, a bloc ar gyfer gwifrau trydan.

Doedd dim modd defnyddio'r ystafell am ddyddiau wedyn, nes bod modd ailosod yr eitemau oedd wedi diflannu.

Mae Heddlu Dyfed-Powys bellach yn ymchwilio i'r digwyddiad.