Cwpl wedi 'dwyn popeth' o ystafell gwesty yn Sir Benfro
- Cyhoeddwyd
Mae perchennog gwesty yn Sir Benfro wedi cyhuddo cwpl fu'n aros yno o ddwyn popeth oedd yn eu hystafell nos Sadwrn diwethaf.
Dywedodd Natalie Newton, sy'n rhedeg Gwesty'r Dolphin yn Noc Penfro, fod gwerth tua £200 o eitemau wedi eu dwyn gan gynnwys tywelion, ffan trydan, dwy lamp, tegell, tun te, a bloc ar gyfer gwifrau trydan - gan adael dim ond y sebon.
Doedd dim modd defnyddio'r ystafell am ddyddiau wedyn, nes bod modd ailosod yr eitemau oedd wedi diflannu.
Dywedodd Miss Newton fod y cwpl, oedd ag acenion de Cymru, wedi mynd i'w car i "nôl bagiau" cyn mynd â phopeth yn ôl i'r car a gyrru i ffwrdd.
Cafodd eu cerdyn i dalu am y llety hefyd ei wrthod.
Fe wnaeth Miss Newton apelio am help gyda lluniau o'r lladron honedig ar Facebook, post sydd bellach wedi cael ei ddileu.
Dywedodd Heddlu Dyfed-Powys eu bod yn ymchwilio i'r digwyddiad.