Garan Evans: 'Dan Biggar yn cario'r tîm ar adegau'
Mae maswr Cymru, Dan Biggar, wedi cyhoeddi y bydd yn ymddeol o rygbi rhyngwladol wedi Pencampwriaeth Cwpan Rygbi'r Byd yn 2023.
Mae disgwyl i'r chwaraewr 33 oed barhau i chwarae i glwb Toulon yn Ffrainc - clwb yr ymunodd ag ef yn Nhachwedd 2022.
"Mae e'n un sy'n rhoi 100% ar y cae," medd cyn-asgellwr a chefnwr Cymru, Garan Evans.
Ychwanegodd ei fod wedi "cario'r tîm ar adegau", gan sicrhau'r agwedd a safon uchel o chwarae.